
Ailfrandio Traveline Cymru: Yr arbenigwyr ar wybodaeth am drafnidiaeth gyhoeddus
25 Medi 2016Croeso i wyneb newydd Traveline Cymru! Ar ôl ystyried adborth gan ein cwsmeriaid a’n partneriaid, rydym wedi bod yn gweithio y tu ôl i’r llenni ar ailfrandio cyfres Traveline Cymru o wasanaethau, ac yn awr mae’n bleser gennym lansio ein delwedd newydd sbon!
Mae ein gwefan a’n ap ar gyfer dyfeisiau symudol wedi’u diweddaru i adlewyrchu’r brand newydd, sy’n cynnwys y lliwiau a’r eiconau newydd sbon.
Ewch draw i’n gwefan, sef www.traveline.cymru, i weld y brand newydd neu lawrlwythwch ein ap ar gyfer dyfeisiau symudol, sydd ar gael yn rhad ac am ddim! Mae’r ap ar gael ar gyfer dyfeisiau iPhone ac Android, a gallwch ei lawrlwytho’n uniongyrchol o’r App Store a Google Play.
Mae’n bleser gennym gyhoeddi ein rhif Rhadffôn newydd sbon hefyd, sef 0800 464 0000. Mae modd ffonio’r rhif yn rhad ac am ddim a bydd tîm ein canolfan gyswllt ddwyieithog ar gael i helpu gydag unrhyw ymholiadau a allai fod gennych ynghylch cynllunio taith.
Ni yw’r arbenigwyr ar wybodaeth am drafnidiaeth gyhoeddus, a’n nod yw eich helpu i gynllunio eich teithiau ar y bws neu’r trên yn hwylus, gan eich helpu i ddod o hyd i’r holl wybodaeth y mae ei hangen arnoch mewn un lle.
Byddem wrth ein bodd yn clywed eich sylwadau am ein brand newydd. Mae croeso i chi anfon unrhyw adborth i marketing@traveline.cymru; byddem yn falch iawn o glywed gennych!