Newyddion

mytravelpass discounted bus travel in wales

Cynllun sy’n cynnig teithiau rhatach ar fysiau wedi cael 7,000 o geisiadau yn ystod ei flwyddyn gyntaf

03 Hydref 2016

Mae cynllun sy’n cynnig teithiau rhatach ar fysiau i bobl ifanc yng Nghymru wedi cael dechrau llwyddiannus wrth i 7,000 o geisiadau ddod i law yn ystod blwyddyn gyntaf y cynllun.

Y mis hwn mae cynllun fyngherdynteithio, sy’n cynnig un rhan o dair oddi ar bris tocynnau bws i bobl ifanc 16, 17 ac 18 oed yng Nghymru, yn flwydd oed.

Mae’r cynllun yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a’i weinyddu gan Traveline Cymru, y darparwr gwybodaeth am drafnidiaeth gyhoeddus. Cafodd ei lansio i leihau costau trafnidiaeth, sy’n gallu bod yn rhwystr i bobl ifanc sy’n ceisio cael swyddi a manteisio ar gyfleoedd hyfforddi.

Meddai Jo Foxall, rheolwr marchnata fyngherdynteithio: "Mae’n wych gweld bod pobl ifanc Cymru yn manteisio ar y cynllun wrth deithio ar drafnidiaeth gyhoeddus. Mae’r cerdyn ar gael yn rhad ac am ddim ac mae’r cynllun ar waith ledled Cymru. Mae’r sawl sy’n gymwys yn gallu gwneud cais ar-lein ar wefan fyngherdynteithio, drwy’r post neu dros y ffôn drwy ffonio 0300 200 22 33. Rydym yn gobeithio y bydd rhagor o bobl ifanc 16 i 18 oed sy’n byw yng Nghymru yn manteisio ar y cyfle ac yn gwneud cais am eu cerdyn.”

Meddai Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith, Ken Skates: “Mae cynllun fyngherdynteithio yn dangos ein hymrwymiad i gynorthwyo pobl ifanc i gael gwaith ac addysg. Rydym yn deall bod costau trafnidiaeth yn gallu bod yn rhwystr i bobl ifanc, a diben fyngherdynteithio yw ei gwneud yn rhatach ac yn haws i’r 110,000 o bobl ifanc 16-18 oed sy’n byw yng Nghymru ddefnyddio’r bws. 

 “Mae’n dda gweld bod 7,000 o bobl ifanc wedi ymuno â’r cynllun yn ystod y flwyddyn gyntaf a byddwn yn annog pawb sy’n gymwys i fynegi diddordeb a manteisio’n llawn ar y cynllun.”

I gael rhagor o wybodaeth am gynllun fyngherdynteithio, caiff pobl eu hannog i fynd i’r wefan, sef fyngherdynteithio.llyw.cymru, dilyn facebook.com/MytravelpassFyngherdynteithio ar Facebook, dilyn @cerdynteithio ar Twitter neu ffonio 0300 200 22 33.

Diwedd

Dylai ymholiadau gan y cyfryngau gael eu hanfon at Shelley Phillips neu Lyndsey Jenkins yn jamjar PR ar 01446 771265 neu shelley@jamjar-pr.co.uk

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon