Newyddion

Stagecoach in South Wales Employees to Mark National Customer Service Week

Gweithwyr Stagecoach Yn Ne Cymru Yn Dathlu Wythnos Genedlaethol Gwasanaethau I Gwsmeriaid

11 Hydref 2016

  • Mae cyfres o weithgareddau wedi’u trefnu ar draws y de
  • Bydd Rheolwyr a Chyfarwyddwyr yn cyflawni dyletswyddau rheng flaen
  • Bydd cyfleoedd i deithwyr gael nwyddau am ddim a chymryd rhan mewn digwyddiadau

Mae gweithwyr Stagecoach yn Ne Cymru wrthi’n paratoi i gymryd rhan yn Wythnos Genedlaethol Gwasanaethau i Gwsmeriaid eleni.

Bydd y cwmni yn dathlu’r ymgyrch genedlaethol gydag amrywiaeth o ddigwyddiadau lleol drwy gydol yr wythnos, o 3 i 9 Hydref.

Caiff yr Wythnos Genedlaethol Gwasanaethau i Gwsmeriaid ei chynnal gan y Sefydliad Gwasanaethau i Gwsmeriaid, a’i nod yw codi ymwybyddiaeth o wasanaethau i gwsmeriaid a’i rôl hollbwysig o safbwynt sicrhau bod busnesau’n llwyddo a bod economi’r DU yn tyfu.

Yn ystod yr Wythnos Genedlaethol Gwasanaethau i Gwsmeriaid bydd gweithwyr Stagecoach yn Ne Cymru yn cymryd rhan mewn cyfres o weithgareddau lleol sydd â’r nod o bwysleisio pwysigrwydd parhau i ddarparu gwasanaethau da i deithwyr bob dydd.

  • Bydd Rheolwyr yn rhannu brecwast am ddim yng Nghwmbrân a Phorth
  • Bydd y Rheolwr Gyfarwyddwr yn cynnal sesiwn ‘anfon neges drydar at y Rheolwr Gyfarwyddwr’
  • Cynhelir digwyddiad rhoi nwyddau am ddim a chynnal arolwg o deithwyr yn y Coed-duon
  • Bydd rheolwyr yn cynnal sesiynau ‘anfon neges drydar at y Rheolwr’
  • Bydd Rheolwyr a Chyfarwyddwyr wrth y llyw ar rai o’r gwasanaethau lleol yn ardaloedd Rhondda Cynon Taf, Aberdâr, Cwmbrân a Merthyr Tudful drwy gydol yr wythnos.

Meddai Rheolwr Gyfarwyddwr Stagecoach yn Ne Cymru, Nigel Winter: “Mae 24 miliwn o gwsmeriaid y flwyddyn yn dewis teithio ar ein bysiau. Mae hynny’n gyfrifoldeb mawr.

Rydym yn gwybod bod problemau’n gallu codi sy’n effeithio ar deithiau ein cwsmeriaid. Gall y problemau hynny fod yn bethau yr ydym ni’n eu rheoli, neu’n broblemau megis tagfeydd lle mae angen i ni gael cymorth partneriaid eraill.

Dyna pam yr ydym bob amser yn ystyried sut y gallwn ddarparu gwasanaethau hyd yn oed yn well i bobl sy’n teithio gyda ni, boed hynny cyn, yn ystod neu ar ôl y daith. Mae gennym dîm gwych o staff rheng flaen yn Stagecoach De Cymru. Rwy’n falch iawn o’r modd y maent yn canolbwyntio ar ddarparu profiad da i gwsmeriaid wrth iddynt deithio a sicrhau eu bod yn cyrraedd pen eu taith yn ddiogel.

Mae Wythnos Genedlaethol Gwasanaethau i Gwsmeriaid yn gyfle gwych i ddangos yr ymrwymiad yr ydym yn ei wneud i wasanaethau i gwsmeriaid drwy’r flwyddyn. Mae hefyd yn rhoi’r cyfle i gwsmeriaid siarad â ni’n uniongyrchol a rhannu eu barn am yr hyn yr ydym yn ei wneud yn dda a sut y gallwn wneud hyd yn oed yn well.”

I gael rhagor o wybodaeth am Stagecoach ewch i www.stagecoachbus.com neu lawrlwythwch ein ap newydd http://stge.co/b2Sr304MNpg

 

DIWEDD

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon