
Diwrnod Agored Bws Caerdydd i ddathlu Calan Gaeaf
19 Hydref 2016Bydd cwmni Bws Caerdydd yn agor drysau ei ddepo ar Sloper Road er mwyn cynnal diwrnod dychrynllyd llawn hwyl, ddydd Sul 30 Hydref rhwng 12pm a 4pm, i ddathlu 30 mlynedd ers sefydlu Bws Caerdydd.
Gall y teulu cyfan fwynhau’r digwyddiad Calan Gaeaf a thaith o gwmpas y depo lle gallwch ddarganfod beth sy’n digwydd yn yr ystafell reoli, ymweld â’r adran beirianneg a chael mynd drwy’r peiriant golchi bysiau.
Bydd ambell beth arswydus yn digwydd hefyd, gan gynnwys cystadleuaeth gwisg ffansi Calan Gaeaf i’r plant, a chyfle i weld rhai o hen fysiau Bws Caerdydd.
Mae mynediad yn rhad ac am ddim, ond bydd Bws Caerdydd yn casglu arian ar y dydd i elusen y cwmni, sef Headway Caerdydd.
Ewch i Bws Caerdydd i gael rhagor o wybodaeth.
Bydd gan dîm Traveline Cymru stondin yn y digwyddiad, felly cofiwch alw heibio i ddweud helo!