Newyddion

Cardiff Bus step into christmas

Bws Caerdydd yn helpu teuluoedd â gostyngiadau wrth ‘Nesáu at y Nadolig’

11 Tachwedd 2016

Rydym yn helpu teuluoedd i ddechrau dathlu’r Nadolig ddydd Iau 10 Tachwedd drwy gynnig gostyngiadau arbennig iddynt.

Wrth i ddinas Caerdydd baratoi ar gyfer ei digwyddiad ‘Nesáu at y Nadolig’ blynyddol, byddwn yn cynnig tocynnau teulu am bris rhatach er mwyn helpu’r sawl sy’n teithio i ganol y ddinas osgoi problemau parcio a thraffig.

Bydd teuluoedd sy’n dymuno teithio i ganol y ddinas ar gyfer y digwyddiad yn gallu prynu tocyn teulu arbennig am bum punt (‘Families for a Fiver’) a fydd yn caniatáu i ddau oedolyn a hyd at dri o blant neu bobl ifanc deunaw oed neu iau deithio ar y bws. 

O 3pm ymlaen ddydd Iau bydd y tocyn teulu ar gael am bris gostyngol o £5 yng Nghaerdydd a Phenarth neu am £7 ar draws ein rhwydwaith cyfan.

Mae uchafbwyntiau ‘Nesáu at y Nadolig’ yn cynnwys gorymdaith Siôn Corn a’i geirw, marchnadoedd Nadolig yn Ardal y Dathliadau a groto Siôn Corn ar Stryd y Frenhines. Ar yr un noson bydd Gŵyl y Gaeaf - sy’n boblogaidd tu hwnt - a’i llawr iâ Admiral enwog yn agor ar Lawnt Neuadd y Ddinas a bydd stondinau’r farchnad Nadolig yn agor yn yr Ais hefyd.

Bydd dros 80 o berfformiadau mewn gwahanol leoliadau o amgylch canol y ddinas, ac er nad yw’r goleuadau Nadolig yn cael eu cynnau’n swyddogol, hwn fydd y cyfle cyntaf i’r cyhoedd weld y goleuadau Nadolig yn harddu canol y ddinas. 

Meddai Gareth Stevens, rheolwr masnachol Bws Caerdydd: “Rydym bob amser yn ceisio darparu’r gwerth gorau am arian i’n cwsmeriaid ac rydym yn gwybod bod y cyfnod cyn y Nadolig yn gallu bod yn gostus iawn. Rydym yn helpu teuluoedd i gael dechrau da i’w Nadolig trwy ostwng pris ein tocyn teulu i’r sawl sy’n teithio i’r digwyddiad ‘Nesáu at y Nadolig’.

“Mae disgwyl i filoedd o bobl ddod i ganol y ddinas nos Iau a byddem yn annog teuluoedd i deithio ar y bws er mwyn lleihau tagfeydd traffig ac osgoi problemau parcio.”

Bydd gennym fysiau a staff ychwanegol wrth law oherwydd y nifer fawr o ymwelwyr a ddisgwylir ar gyfer y digwyddiad.

Gallwch gael gwybod mwy am ein tocyn teulu yma.

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon