Newyddion

TrawsCymru resume Aberystwyth to Cardiff bus service

TrawsCymru yn ailddechrau gwasanaeth bws rhwng Aberystwyth a Chaerdydd

14 Tachwedd 2016

Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y bydd y gwasanaeth bws rhwng Aberystwyth a Chaerdydd yn ailddechrau’n nes ymlaen y mis hwn.

Bydd gwasanaeth T1C newydd TrawsCymru yn cymryd lle’r gwasanaeth 701 blaenorol a gâi ei redeg gan Lewis Coaches cyn i’r cwmni hwnnw fynd i ddwylo’r gweinyddwyr ym mis Awst.

Bydd y gwasanaeth newydd yn cydredeg â gwasanaeth T1 sy’n rhedeg bob awr rhwng Aberystwyth a Chaerfyrddin ac sy’n cysylltu â’r rheilffordd yng Nghaerfyrddin.

Bydd y gwasanaeth yn cael ei adolygu ar ôl chwe mis.

Dywedodd Ken Skates, yr Ysgrifennydd dros yr Economi a’r Seilwaith, ei fod yn “falch iawn” bod TrawsCymru wedi gallu cymryd cyfrifoldeb am y “llwybr pwysig” hwn.

“Ar ôl i gwmni Lewis Coaches ddod i ben yn ddisymwth, rydym wedi gweithredu’n sydyn gyda’r awdurdod lleol ac eraill i sicrhau bod gwasanaethau hanfodol yn parhau a bod pobl yn wynebu cyn lleied o anghyfleustra ag sy’n bosibl,” meddai.

Darllenwch y stori hon ar dudalennau newyddion gwefan y BBC yma.

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon