Gorffen yn gynnar ar Noswyl Nadolig a Nos Galan
21 Rhagfyr 2016Mae llawer o weithredwyr yn bwriadu dod â’u gwasanaethau i ben yn gynnar ar Noswyl Nadolig a Nos Galan. O ganlyniad, efallai na fydd ein cynlluniwr taith yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi, felly cofiwch fynd i’n tudalen ynghylch Teithio dros y Nadolig i gael y wybodaeth ddiweddaraf.
Sylwch y bydd rhywfaint o amharu ychwanegol ar wasanaethau dros gyfnod y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd ac y bydd trefniadau arbennig ar waith ar gyfer gwasanaethau.
Cliciwch yma i weld ein tudalen wybodaeth ynghylch Teithio dros y Nadolig i gael yr holl fanylion y bydd arnoch eu hangen.
I gael rhagor o wybodaeth, gallwch ein ffonio ar ein rhif rhadffôn 0800 464 0000 lle bydd staff dwyieithog ein Canolfan Gyswllt wrth law i’ch helpu gyda’ch ymholiadau. Dyma oriau agor y Ganolfan Gyswllt dros y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd:
Dydd Iau 22 Rhagfyr |
07:00 – 20:00 |
Dydd Gwener 23 Rhagfyr |
07:00 – 20:00 |
Dydd Sadwrn 24 Rhagfyr |
07:00 – 18:00 |
Dydd Sul 25 Rhagfyr |
AR GAU |
Dydd Llun 26 Rhagfyr |
10:00 – 16:00 |
Dydd Mawrth 27 Rhagfyr |
07:00 – 20:00 |
Dydd Mercher 28 Rhagfyr |
07:00 – 20:00 |
Dydd Iau 29 Rhagfyr |
07:00 – 20:00 |
Dydd Gwener 30 Rhagfyr |
07:00 – 20:00 |
Dydd Sadwrn 31 Rhagfyr |
07:00 – 20:00 |
Dydd Sul 1 Ionawr |
08:00 – 20:00 |
Dydd Llun 2 Ionawr |
07:00 – 20:00 |