Cyfle i ddweud eich dweud am Strategaeth Drafnidiaeth Caerdydd
10 Ionawr 2017Wedi i’r Cabinet gymeradwyo Strategaeth Drafnidiaeth Caerdydd, mae’r Awdurdod am gael barn y cyhoedd ynghylch a ddeallwyd y strategaeth yn llawn.
Gellir cael mynediad i’r arolwg byr yn Gymraeg ac yn Saesneg drwy’r dolenni cyswllt canlynol:
https://www.snapsurveys.com/wh/s.asp?k=148119156864 (Cymraeg) neu https://www.snapsurveys.com/wh/s.asp?k=148000232274 (Saesneg).
Fel arall, gellir gofyn am gopi caled o’r arolwg drwy e-bostio travelplans@cardiff.gov.uk
Gellir gweld y strategaeth yma: http://www.cadwcaerdyddisymud.co.uk/transport-strategy
Dylid cyflwyno ymatebion erbyn 17 Chwefror 2017.
Mae’r strategaeth yn amlinellu blaenoriaethau Cyngor y Ddinas i annog pobl i gerdded a beicio, gwella’r dewisiadau sydd ar gael o ran trafnidiaeth gyhoeddus, a chefnogi gwaith Llywodraeth Cymru o ddatblygu system Fetro yn y dyfodol.
Bwriad y ddogfen newydd yw esbonio dyfodol trafnidiaeth yng Nghaerdydd wrth i’r ddinas geisio bod y brifddinas orau yn Ewrop i fyw ynddi.
Mae’n egluro’r prif brosiectau a chamau gweithredu y bydd y Cyngor yn ymgymryd â nhw wrth iddo geisio gwella rhwydwaith trafnidiaeth Caerdydd ac annog preswylwyr, cymudwyr ac ymwelwyr i roi’r gorau i deithio mewn car preifat a dechrau defnyddio dulliau mwy cynaliadwy o deithio – drwy gerdded, beicio neu ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.
Mae’r blaenoriaethau o ran trafnidiaeth a gaiff eu hegluro yn y ddogfen hon yn cynnwys y canlynol:
- Prosiect METRO Llywodraeth Cymru
- Datblygu system dramiau ar y stryd sy’n gysylltiedig â’r rhwydwaith Metro rhanbarthol ehangach
- Gwell llwybrau a gwasanaethau bysiau yng Nghaerdydd ac ar lwybrau sy’n croesi ffiniau
- Rhwydwaith beicio strategol
- Rheoli’r rhwydwaith priffyrdd yn well
- Gwella’r rhwydwaith trenau
- Y gyfnewidfa fysiau newydd yn y Sgwâr Canolog
- Coridor trafnidiaeth newydd drwy Ogledd-orllewin Caerdydd
- Gwella llwybrau i gerddwyr
- Gwella’r seilwaith trafnidiaeth gyhoeddus
- Gwella cyfleusterau parcio a theithio
- Cyfnewidfa fysiau a threnau Gorllewin Caerdydd
- Gwelliannau i dechnoleg a bysiau sy’n garedig i’r amgylchedd.
Er mwyn cyflawni’r blaenoriaethau hyn bydd y Cyngor yn gweithio gydag ystod o sefydliadau partner, gan gynnwys datblygwyr, gweithredwyr trafnidiaeth gyhoeddus, cymuned fusnes Caerdydd, awdurdodau lleol cyfagos, Llywodraeth Cymru, y sector iechyd a chyrff cyhoeddus allweddol eraill.
Mae Caerdydd yn parhau i dyfu o ran nifer y bobl sy’n byw yma a nifer y bobl sy’n teithio i’r ddinas i weithio. Ers 2004, gwelwyd cynnydd o 10% yn nifer y bobl sy’n teithio i Gaerdydd i weithio bob dydd o ardaloedd cyfagos – mae’r nifer wedi codi o 74,600 i 81,800. Wrth i’r boblogaeth barhau i dyfu ac wrth i ragor o bobl deithio i Gaerdydd i weithio, mae Cyngor y Ddinas wedi ymrwymo i hybu ac annog dulliau amgen o deithio, heblaw’r car preifat.
DIWEDD