
Gwasanaeth gwennol Bws Caerdydd i Stadiwm Pêl-droed Dinas Caerdydd
20 Ionawr 2017Mae Bws Caerdydd yn rhedeg gwasanaeth bws gwennol bob 10 munud rhwng Wood Street (JA) a Stadiwm Dinas Caerdydd ar ddiwrnodau gemau cartref. Mae’r bysiau gwennol yn dechrau teithio 2 awr cyn y gic gyntaf ac yn rhedeg tan 20 munud cyn y gic gyntaf.
Pan fydd y gêm wedi gorffen, gallwch ddal y bws gwennol yn ôl i ganol y ddinas o gerflun Fred Keenor. Bydd y bysiau’n rhedeg am hyd at awr ar ôl y chwiban olaf.
Pris y bws gwennol i ddeiliaid tocynnau: £2.40
Tocyn teulu (ar benwythnosau ac ar ŵyl y banc, dim mwy na 2 oedolyn): £5
I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan Bws Caerdydd yma.