Newyddion

Stagecoach logo bus survey

POBL YN ARBED £1,000 Y FLWYDDYN WRTH DDEFNYDDIO’R BWS YN LLE’R CAR I DEITHIO I’R GWAITH, YN ÔL AROLWG

08 Chwefror 2017

  • Mae’r sawl sy’n teithio ar fysiau’n arbed tua £95 y mis ar gyfartaledd drwy adael eu car gartref
  • Gwelwyd yr arbedion blynyddol mwyaf, sef dros £2,800, yng ngorllewin yr Alban
  • Bu arolwg Stagecoach yn ymdrin ag oddeutu 35 o lwybrau allweddol i deithwyr yng Nghymru, Lloegr a’r Alban
  • Cafwyd rhybudd y bydd tagfeydd traffig yn parhau i gynyddu prisiau tocynnau oni bai bod awdurdodau lleol yn mynd i’r afael â’r broblem

Mae ymchwil genedlaethol newydd wedi darganfod bod pobl sy’n defnyddio’r bws i deithio i’r gwaith yn arbed £1,000 ar gyfartaledd, o’u cymharu â’r sawl sy’n teithio i’r gwaith mewn car.

Er bod prisiau tanwydd yn is, mae teithio ar fysiau oddeutu 55% yn rhatach na chyflawni’r un teithiau mewn car ac yn arbed oddeutu £95 y mis ar gyfartaledd i deithwyr, yn ôl yr astudiaeth.

Byddai cyfartaledd yr arbedion blynyddol, sef £1,095, yn ddigon i dalu holl gostau ynni tŷ o faint canolig bob blwyddyn*.

Daw’r newyddion wrth i ymchwil bellach ddangos bod pobl yn pryderu fwyfwy am dagfeydd a’u heffaith ar lefelau llygredd, Dywedodd 55% o bobl eu bod yn pryderu am dagfeydd a dywedodd 60% eu bod yn pryderu am y nwyon sy’n dod o bibellau mwg ceir mewn trefi a dinasoedd.**

Bu’r ymchwil a gynhaliwyd gan Stagecoach, sef gweithredwr bysiau mwyaf Prydain, yn ymdrin ag oddeutu 35 o lwybrau allweddol i deithwyr yng Nghymru, Lloegr a’r Alban. Bu’n cymharu cost wythnosol mynd ar y bws â chost tanwydd a pharcio car ar gyfer yr un teithiau.

Canfu’r astudiaeth:

  • Fod yr arbedion mwyaf i’w gweld yng ngorllewin yr Alban lle’r oedd y sawl a oedd yn teithio ar fysiau rhwng Ayr a Glasgow yn gallu arbed dros £2,800 y flwyddyn, o’u cymharu â modurwyr.
  • Yng ngogledd-ddwyrain Lloegr, roedd teithio ar fysiau rhwng South Shields a Newcastle 73% yn rhatach na gyrru.
  • Roedd y sawl a oedd yn teithio rhwng Heswall a Lerpwl yn ardal Glannau Mersi yn gallu arbed dros £1,400 y flwyddyn drwy ddechrau teithio ar fysiau.
  • Yn ardal Manceinion Fwyaf, roedd y sawl a oedd yn teithio ar fysiau rhwng Reddish a Manceinion yn gallu arbed dros £740 y flwyddyn.
  • Yn ne-orllewin Lloegr, roedd y sawl a oedd yn teithio rhwng Torquay a Chaerwysg yn gallu arbed dros £1,200 y flwyddyn drwy adael eu car gartref a chymryd y bws.
  • Yn ne Lloegr, gwelwyd bod teithio ar fysiau rhwng Worthing a Brighton dros £2,400 yn rhatach na theithio mewn car.
  • Yn yr Alban, roedd teithio ar fysiau yn lle gyrru rhwng Peterhead ac Aberdeen oddeutu £2,000 y flwyddyn yn rhatach.
  • Yng Nghymru, roedd y sawl sy’n teithio rhwng Merthyr a Chaerdydd yn gallu arbed oddeutu £1,600 y flwyddyn drwy ddechrau teithio ar fysiau.

Meddai Robert Montgomery, Rheolwr Gyfarwyddwr Stagecoach UK Bus: “Mae’r ymchwil yn dangos ei bod yn dal gryn dipyn yn rhatach i lawer o bobl ledled y DU deithio i’r gwaith ar y bws.

“Gallai cyfartaledd yr arbedion dalu am wyliau i’r teulu neu olygu bod gan bobl fwy o arian bob mis i fynd i siopa.

“Rydym yn gweithio’n galed i gynnig opsiynau teithio sy’n cynnig gwerth da am arian i’r bobl niferus sy’n dibynnu ar fysiau. Fodd bynnag, mae angen i’n gwleidyddion weithredu ar frys ar ran y sawl sy’n teithio ar fysiau, er mwyn mynd i’r afael â’r tagfeydd traffig sy’n broblem gynyddol yn ein trefi a’n dinasoedd, sy’n cynyddu prisiau tocynnau ac yn ymestyn amseroedd teithio.

“Rydym yn buddsoddi mewn gwelliannau parhaus ar gyfer ein cwsmeriaid ond mae angen i’r sawl sy’n gyfrifol am y seilwaith ffyrdd ddangos yr un ymrwymiad â ni, drwy ryddhau lle ar y ffyrdd er mwyn i fysiau allu gweithredu’n llwyddiannus.”

Mae Stagecoach wedi buddsoddi mewn cyfres o brosiectau er mwyn helpu i drawsnewid teithiau ar fysiau i’n cwsmeriaid. Mae’r prosiectau hynny’n cynnwys:

  • Yr ap newydd ar gyfer ffonau clyfar, o’r enw ‘Stagecoach Bus’, sy’n galluogi cwsmeriaid i gynllunio teithiau, cael gwybodaeth am yr arhosfan nesaf a thracio bysiau mewn amser real, ac sy’n galluogi pobl i brynu a lawrlwytho tocynnau bws yn syth i’w ffôn symudol.
  • Tocynnau clyfar ym mhob un o gwmnïau rhanbarthol Stagecoach – mae dros ddwy filiwn o gardiau StagecoachSmart yn cael eu defnyddio a chaiff dros 330 miliwn o drafodion clyfar eu cyflawni bob blwyddyn.
  • Tocynnau clyfar a dderbynnir gan fwy nag un gweithredwr – ym mhob un o ddinas-ranbarthau Lloegr, sydd o fudd i oddeutu 15 miliwn o bobl, ac mewn sawl ardal allweddol yn yr Alban; caiff y prosiect ei gyflawni mewn partneriaeth â gweithredwyr bysiau eraill yn y DU.
  • Cyfleusterau talu digyffwrdd, a lansiwyd ar wasanaethau Stagecoach yn Swydd Rydychen ac yng ngogledd-ddwyrain Lloegr; bwriedir i’r dechnoleg fod ar gael ym mhob un o gwmnïau bysiau Stagecoach erbyn 2018.
  • Ymrwymiad i weithio gyda phrif weithredwyr bysiau’r DU ar gynllun uchelgeisiol a allai olygu bod cardiau digyffwrdd yn cael eu cyflwyno ar bob un o’r 32,000 a mwy o fysiau sydd y tu allan i Lundain erbyn 2022.
  • Dros £1 biliwn wedi’i wario ar fysiau newydd ar gyfer y DU yn ystod y 10 mlynedd diwethaf.

I gael rhagor o wybodaeth am Stagecoach UK Bus, ewch i www.stagecoachbus.com


DIWEDD

Ar gyfer ymholiadau gan y cyfryngau, cysylltwch â Thîm Cyfathrebu Grŵp Stagecoach drwy ffonio 01738 442111 neu e-bostio: media@stagecoachgroup.com

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon