Newyddion

Contact Centre Cymru

Canolfan gyswllt Traveline yn dathlu gyda’r goreuon o ddiwydiant canolfannau cyswllt Cymru

24 Mawrth 2017

Bu gweithwyr Traveline Cymru yn dathlu gyda’r goreuon o ddiwydiant canolfannau cyswllt Cymru yn ddiweddar ar ôl i’w canolfan gyswllt – Contact Centre Cymru – gyrraedd y rownd derfynol yng Ngwobrau Canolfannau Cyswllt Cymru 2017.

Roedd y cinio gwobrwyo, a gynhaliwyd yng Nghanolfan y Mileniwm, yn dathlu rhagoriaeth ac arloesedd sefydliadau ar draws Cymru.

Cafodd y seremoni, a gynhaliwyd am y 18fed flwyddyn, ei llywio gan Jason Manford a daeth dros 700 o westeion ynghyd i anrhydeddu’r cwmnïau a’r unigolion sy’n serennu yn y diwydiant canolfannau cyswllt.

Roedd canolfan gyswllt ddwyieithog Traveline yn y gogledd – Contact Centre Cymru – ymysg y rhai a gyrhaeddodd y rhestr fer, a chafodd ei dewis i fod yn y rownd derfynol mewn dau gategori, sef y categori Ymgysylltu â Chwsmeriaid a’r categori Rheolwr Canolfan Gyswllt y Flwyddyn, y cafodd Emma Lockett ei henwebu ar ei gyfer.

Tîm bach o 21 o staff sydd gan y ganolfan alwadau, ac roedd y gwobrau’n gosod y ganolfan ochr yn ochr â llu o gwmnïau mawr yn y diwydiant. Mae hynny’n ychwanegu at y gyfres nodedig o lwyddiannau y mae’r cwmni wedi’u cyflawni.

Mae cyrraedd y rhestr fer ar gyfer y gwobrau hyn yn dilyn blwyddyn lwyddiannus i’r ganolfan gyswllt, sydd wedi ymdrin ag oddeutu 100,000 o alwadau gan gwsmeriaid ynghylch cynllunio teithiau ac sydd wedi cael y sgorau gorau erioed am fodlonrwydd cwsmeriaid. Roedd 97% o ddefnyddwyr y ganolfan gyswllt a gymerodd ran yn yr arolwg ‘yn fodlon iawn/yn eithaf bodlon’ â’r gwasanaeth yr oeddent wedi’i gael.

Meddai Jo Foxall, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Traveline Cymru: “Roeddem wrth ein bodd o gyrraedd y rownd derfynol yng Ngwobrau Canolfannau Cyswllt Cymru. Mae’n adlewyrchu gwaith caled ein tîm yn y ganolfan gyswllt, ac roedd cystadlu â sefydliadau o safon gystal yn y rownd derfynol yn brofiad anhygoel.

“Caiff miloedd o bobl eu cyflogi mewn dros 200 o ganolfannau cyswllt ar draws y wlad, ac mae’r diwydiant yn cyfrannu dros £650 miliwn i’r economi. Mae ein canolfan gyswllt ni yng Ngwynedd yn adnodd hanfodol i lawer o’n cwsmeriaid, yn enwedig y sawl sydd wedi’u heithrio’n ddigidol. Ein nod yw darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am deithio a rhoi cymorth i’r sawl sy’n ein ffonio.

“Rydym wedi ymrwymo i gynorthwyo ein cwsmeriaid ar draws Cymru a darparu gwasanaeth o safon uchel bob amser, ac mae ein cwsmeriaid wrth wraidd pob peth a wnawn.”

 

Diwedd

Dylai ymholiadau gan y cyfryngau gael eu cyfeirio at Shelley Phillips neu Lyndsey Jenkins yn jamjar PR drwy ffonio 01446 771265 neu ebostio Shelley@jamjar-pr.co.uk

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon