Ymgynghoriad Trafnidiaeth Cymru – Dylunio Gwasanaeth Rheilffyrdd Cymru a’r Gororau, gan gynnwys y Metro
04 Ebrill 2017Mae Trafnidiaeth Cymru yn gofyn am farn pobl am gyfeiriad lefel uchel Gwasanaeth Rheilffyrdd newydd Cymru a’r Gororau, gan gynnwys Metro De Cymru.
Mae Trafnidiaeth Cymru yn cynnal yr ymgynghoriad ar ran Llywodraeth Cymru a’r Adran Drafnidiaeth.
Mae’r ymgynghoriad yn gwahodd ymatebion ynghylch pa mor bwysig yw rhai agweddau i chi, a fydd o gymorth i ddiffinio’r math o wasanaeth rheilffyrdd a fyddai’n ddymunol.
I gael rhagor o wybodaeth a chymryd rhan, cliciwch yma.
Bydd yr ymgynghoriad yn dod i ben ar 23 Mai 2017.