
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy eisiau clywed barn pobl am wasanaethau bysiau
04 Hydref 2017Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy eisiau clywed barn pobl am wasanaethau bysiau, i helpu i benderfynu sut y dylai'r rhwydwaith cludiant cyhoeddus ddatblygu yn y dyfodol i ddiwallu anghenion cymunedau yn well.
Mae arolwg ar-lein yn rhoi cyfle i bobl yng Nghonwy roi eu barn a’u profiadau o ddefnyddio gwasanaethau bysiau lleol. Bydd ymatebwyr yn cael y cyfle i gael eu cynnwys mewn cystadleuaeth i ennill gwerth £100 o dalebau siopa. Gofynnwn i chi annog eich ffrindiau a’ch teulu sy’n defnyddio gwasanaethau bysiau lleol i lenwi’r arolwg hefyd.
Gallwch lenwi’r arolwg trwy glicio ar y ddolen a ganlyn: https://www.surveymonkey.co.uk/r/ConwyBusSurvey
Y dyddiad cau yw Dydd Gwener 27 Hydref 2017