
fyngherdynteithio yn gallu arbed dros £500 y flwyddyn oddi ar bris tocynnau bws i bobl ifanc
09 Hydref 2017Gall pobl ifanc arbed dros £500 y flwyddyn ar bris tocynnau bws, diolch i fenter trafnidiaeth gyhoeddus sydd wedi’i hanelu at bobl ifanc ac sy’n cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru.
Cynllun teithiau rhatach ar fysiau yw fyngherdynteithio, sy’n galluogi pobl ifanc 16-18 oed i gael o leiaf 1/3 oddi ar bris tocynnau bws ledled Cymru.
Mae’r fenter wedi’i datblygu ar y cyd â phob gweithredwr bysiau ledled y wlad, gan gynnwys Arriva Gogledd Cymru, Stagecoach a First Cymru, ac mae pobl ifanc yn cael eu hannog i gofrestru ar gyfer cerdyn er mwyn iddynt arbed bron £1,000 mewn rhai ardaloedd o Gymru.
Drwy ddefnyddio fyngherdynteithio yn y gogledd, gallai person ifanc arbed hyd at £693 y flwyddyn oddi ar bris tocynnau i oedolion.
Gallai deiliaid fyngherdynteithio yn y de-orllewin arbed hyd at £584 y flwyddyn drwy ddefnyddio’r cerdyn, a gallai defnyddwyr bysiau fwynhau arbedion o hyd at £985.50 yn y de-ddwyrain.
Mae’r cynllun yn gobeithio annog pobl ifanc i fanteisio ar drafnidiaeth gyhoeddus, a fydd yn golygu bod ganddynt fwy o arian dros ben i’w wario ar y pethau y maent yn eu mwynhau. Gallai’r arbedion olygu bod pobl ifanc yn gallu talu am dros 70 o ymweliadau â’r sinema mewn blwyddyn, 308 o ddiodydd latte yn Starbucks, 792 o lawrlwythiadau caneuon sengl ar iTunes, neu o leiaf 10 o gemau Playstation neu Xbox.
Gallai’r arbedion olygu hefyd bod ganddynt ddigon o arian ar gyfer gwyliau a thripiau siopa, a’u bod yn gallu lleihau’r baich ar ‘Wasanaeth Tacsi Mam a Dad’.
Mynychodd Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith, ddigwyddiad a gynhaliwyd ym mis Medi ar gampws Iâl Coleg Cambria yn Wrecsam i ddathlu’r cynllun. Cafodd myfyrwyr eu hannog gan Mr Skates i gofrestru a chyfrannu i ymgynghoriad yn nes ymlaen yn yr hydref, a fydd yn ystyried ffyrdd o ddatblygu’r cynllun yn y dyfodol.
Meddai Mr Skates:
“Rydym yn falch o allu cefnogi fyngherdynteithio a helpu pobl ifanc i fod yn fwy annibynnol, gan roi cymorth ariannol iddynt ar yr un pryd. Mae’n gyfle gwych i bobl ifanc wneud yn fawr o’r drafnidiaeth gyhoeddus a gynigir gan weithredwyr lleol ledled Cymru.”
Meddai Rhian Cosslett yn fyngherdynteithio:
“Rydym yn deall bod costau trafnidiaeth yn gallu atal pobl ifanc rhag defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, ond diben fyngherdynteithio yw sicrhau ei bod yn rhatach ac yn haws i’r 110,000 o bobl ifanc 16-18 oed ledled Cymru ddefnyddio bysiau.
“Mae’r cynllun yn ddelfrydol o safbwynt helpu pobl ifanc i fod yn fwy annibynnol heb y gost ychwanegol, ac mae’n golygu bod ganddyn nhw a’u rhieni fwy o arian yn eu pocedi!
“Mae’r broses ar gyfer gwneud cais ar-lein yn ffordd gyflym a hawdd o fanteisio ar drafnidiaeth ratach. Nid oes yn rhaid talu am wneud cais; yr unig beth y mae’n rhaid i’r ymgeisydd ei wneud yw llenwi ffurflen ar-lein a darparu llun lliw sydd o faint llun pasport. Mae mor hawdd â hynny!
“Gan fod modd arbed cymaint o arian, rydym yn gobeithio y bydd mwy o bobl ifanc 16-18 oed yng Nghymru yn manteisio ar y cyfle hwn ac yn gwneud cais am eu cerdyn teithio.”
I wneud cais ar-lein, ewch i fyngherdynteithio.llyw.cymru
Diwedd
Dylai ymholiadau gan y cyfryngau gael eu hanfon at Shelley Phillips yn jamjar PR drwy ffonio 01446 771265 neu e-bostio shelley@jamjar-pr.co.uk