Newyddion

mytravelpass consultation

Llywodraeth Cymru i ymgynghori ar deithiau bws rhatach ar gyfer pobl 16-24 oed

07 Tachwedd 2017

Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio ymgynghoriad sy’n archwilio’r ffordd orau o hybu teithio ar fysiau ymhlith pobl ifanc.

Bydd yr ymgynghoriad yn gwahodd ac yn ystyried safbwyntiau gan bobl, grwpiau, mudiadau a chyrff o bob rhan o Gymru, a bydd yn ystyried beth gellid ei wneud i annog pobl 16-24 oed i ddefnyddio'r bysiau. Bydd yn para tan 4 Ionawr 2018. 

Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates: 

"Mae'n hanfodol bwysig bod y rheini fydd yn elwa ar gynllun teithio rhatach yn ganolog i unrhyw benderfyniad amdano. 

"Pan gyhoeddon ni ym mis Chwefror y byddai'r cynllun fyngherdynteithio yn para, dywedais yn glir y byddem yn ymgynghori'n helaeth ynghylch beth y dylai cynllun o'r fath ei gynnig ac mae'n bleser gen i gyhoeddi ein bod am lansio'r ymgynghoriad ddydd Mawrth. 

"Rwyf wedi bod yn neilltuol o awyddus i weld faint o alw sydd i godi oed cynllun teithio i 24 oed, er mwyn inni allu helpu mwy o bobl ifanc i fanteisio ar fysiau i deithio yng Nghymru. 

"Ar sail canlyniadau'r ymgynghoriad hwn, caiff cynllun newydd ar gyfer pobl ifanc ei gyflwyno ym mis Ebrill 2018 - cynllun a fydd yn adlewyrchu anghenion a dymuniadau pobl ifanc ac a fydd yn rhoi hwb i deithio ar fws fel opsiwn." 

Cliciwch yma i gyfrannu i’r ymgynghoriad.

Ffynhonnell yr erthygl: Llywodraeth Cymru.

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon