Er mwyn eich helpu i fynd i hwyl yr ŵyl, rydym yn cynnig y cyfle i chi ENNILL taleb Love2Shop gwerth £20 gyda’n cystadleuaeth Nadolig – Teithiau Tinsel Traveline! Mae hyn yn berffaith ar gyfer eich siopa Nadolig funud olaf, neu gallech brynu rhywbeth bach i chi eich hun ar ôl yr holl waith caled...!
Er mwyn cael cyfle i ennill, defnyddiwch y cyfryngau cymdeithasol i anfon llun atom o’ch hoff leoliad Nadoligaidd. Gallai fod yn llun o unrhyw le: Groto Siôn Corn, eich hoff farchnad Nadolig neu goeden Nadolig eich tref leol.
Anfonwch eich hoff lun atom ar Twitter, Facebook neu Instagram gan ein tagio ni, @TravelineCymru, ac ychwanegu’r hashnod #TinselTravels gan ddweud sut y cyrhaeddoch chi’r lleoliad.
Rydym yn edrych ymlaen at weld i ble yr ydych wedi bod yn teithio’r mis yma, ac at weld eich hoff leoliadau Nadoligaidd ar draws Cymru!
Ble bynnag y byddwch yn teithio iddo’r Nadolig hwn, sicrhewch eich bod yn cadw’n ddiogel gan ddilyn ein cynghorion teithio ar ein blog yma.
Daw’r gystadleuaeth i ben ddydd Llun 18 Rhagfyr 2017.
Telerau ac amodau: