Teithiau Tinsel Traveline – cyfle i ENNILL taleb Love2Shop gwerth £20 mewn pryd ar gyfer y Nadolig!
08 Rhagfyr 2017Er mwyn eich helpu i fynd i hwyl yr ŵyl, rydym yn cynnig y cyfle i chi ENNILL taleb Love2Shop gwerth £20 gyda’n cystadleuaeth Nadolig – Teithiau Tinsel Traveline! Mae hyn yn berffaith ar gyfer eich siopa Nadolig funud olaf, neu gallech brynu rhywbeth bach i chi eich hun ar ôl yr holl waith caled...!
Er mwyn cael cyfle i ennill, defnyddiwch y cyfryngau cymdeithasol i anfon llun atom o’ch hoff leoliad Nadoligaidd. Gallai fod yn llun o unrhyw le: Groto Siôn Corn, eich hoff farchnad Nadolig neu goeden Nadolig eich tref leol.
Anfonwch eich hoff lun atom ar Twitter, Facebook neu Instagram gan ein tagio ni, @TravelineCymru, ac ychwanegu’r hashnod #TinselTravels gan ddweud sut y cyrhaeddoch chi’r lleoliad.
Rydym yn edrych ymlaen at weld i ble yr ydych wedi bod yn teithio’r mis yma, ac at weld eich hoff leoliadau Nadoligaidd ar draws Cymru!
Ble bynnag y byddwch yn teithio iddo’r Nadolig hwn, sicrhewch eich bod yn cadw’n ddiogel gan ddilyn ein cynghorion teithio ar ein blog yma.
Daw’r gystadleuaeth i ben ddydd Llun 18 Rhagfyr 2017.
Telerau ac amodau:
- Dyddiad cau'r gystadleuaeth yw dydd Llun 18 Rhagfyr 2017. Ni fydd unrhyw gais sy’n dod i law ar ôl y dyddiad hwnnw’n cael ei ystyried.
- Rhaid i bob cais gynnwys yr hashnod #TinselTravels a rhaid i chi dagio @TravelineCymru. Ni fydd unrhyw gais nad yw’n cynnwys y ddau beth hyn yn cael ei ystyried.
- Y wobr yw x1 daleb Love2Shop gwerth £20. Nid oes modd cael arian parod yn lle’r wobr.
- Caiff yr enillydd ei ddewis ar hap gan Traveline Cymru, a byddwn yn cysylltu ag ef ddydd Llun 18 Rhagfyr 2017.