Newyddion

Stagecoach in South Wales goes for gold in Caerphilly and the Rhondda Valleys

Stagecoach yn Ne Cymru yn troi’n aur yng Nghaerffili a Chymoedd y Rhondda!

14 Rhagfyr 2017

  • Dros £4 miliwn wedi’i fuddsoddi mewn 24 o gerbydau newydd ar gyfer gwasanaeth 120/130; Blaen-cwm/Blaenrhondda i Gaerffili, drwy’r Porth a Phontypridd a’r Rhondda Fawr.
  • Bydd gan y cerbydau newydd gyfleuster Wi-fi rhad ac am ddim; mannau gwefru USB; seddi sydd â chefnau uchel ac sydd wedi’u gorchuddio â lledr ecogyfeillgar; gorffeniad mwy meddal a moethus y tu mewn iddynt; injan ddiesel Euro 6 sy’n diffodd pan fydd y bws yn llonydd; a lifrai aur arbennig.

Bydd y sawl sy’n teithio ar y bws o Flaen-cwm a Blaenrhondda yng nghwm y Rhondda Fawr i Gaerffili yn gallu teithio mewn mwy o steil a moethusrwydd wrth i Stagecoach yn Ne Cymru lansio’n swyddogol ei fflyd ddiweddaraf o fysiau aur moethus heddiw.

Mae buddsoddiad Stagecoach, sy’n werth dros £4 miliwn, yn golygu y bydd y sawl sy’n teithio ar wasanaeth 120/130 Stagecoach - sy’n mynd drwy gwm y Rhondda Fawr gan wasanaethu Tonypandy, y Porth, Pontypridd a Nantgarw i gyfeiriad Caerffili - yn cael gwasanaeth moethus pum seren oherwydd y seddi cyfforddus sydd â chefnau uchel ac sydd wedi’u gorchuddio â lledr ecogyfeillgar ac oherwydd bod mwy o le i’r coesau a bod cyfleuster Wi-fi rhad ac am ddim a mannau gwefru USB i’w cael arnynt. At hynny, mae’r cwmni wedi cyflwyno cyhoeddiadau llafar a gwybodaeth weledol ddwyieithog am yr arhosfan nesaf, sy’n rhoi gwybodaeth ychwanegol i deithwyr am eu taith.

Y bysiau aur diweddaraf hyn a lansiwyd gan Stagecoach yw’r drydedd fflyd o’i math i’w chyflwyno yn y de. Mae gwasanaeth 120/130 yn ymuno â gwasanaeth aur 132 a lansiwyd yn 2016 ac sy’n gweithredu rhwng y Maerdy a Chaerdydd. Cafodd y gwasanaeth aur cyntaf, sef gwasanaeth X24, ei lansio’n ôl yn 2015 ac mae’n teithio o Flaenafon i Gasnewydd drwy Bont-y-pŵl a Chwmbrân.

Meddai Nigel Winter, Rheolwr Gyfarwyddwr Stagecoach yn Ne Cymru: “Rydym yn parhau i fuddsoddi’n sylweddol yn ein fflyd er mwyn gwella profiad y teithwyr. Mae’r buddsoddiad mewn bysiau newydd ers 2007 (10 mlynedd) wedi cyrraedd dros £30 miliwn ar ôl i ni gyflwyno 263 o fysiau newydd, ac mae buddsoddiad sy’n werth dros £4 miliwn eleni wedi ychwanegu at batrwm cyson o fuddsoddi mewn trafnidiaeth i deithwyr yn Ne Cymru. Mae ein bysiau aur wedi’u dylunio i ddiwallu anghenion ein cwsmeriaid. Rydym yn cydnabod bod ein cwsmeriaid yn gwerthfawrogi defnyddio cyfleusterau Wi-fi rhad ac am ddim a mannau gwefru USB ar deithiau megis y daith o Flaen-cwm i Gaerffili, er mwyn iddynt allu gwneud defnydd cynhyrchiol o’r amser y maent yn ei dreulio yn teithio i’r gwaith. Maent hefyd yn croesawu mwy o gyfforddusrwydd ac yn croesawu’r ffaith bod yr injan Euro 6 ddiweddaraf, sy’n diffodd pan fydd y bws yn llonydd, yn fwy cyfeillgar i’r amgylchedd.

“Yn rhan o’n gwasanaeth aur rydym yn sicrhau bod pob un o’n gyrwyr yn cael eu hyfforddi i ddarparu gwasanaeth o’r radd flaenaf i gwsmeriaid. Bydd ein tîm o yrwyr rheolaidd a brwd yn helpu cwsmeriaid, p’un a ydynt yn teithio ar y bws am y tro cyntaf neu’n deithwyr rheolaidd, a bydd y cyffyrddiadau o foethusrwydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol o safbwynt sicrhau bod pawb yn cael taith fwy pleserus a chynhyrchiol gyda’r cyfleuster Wi-fi rhad ac am ddim a’r mannau gwefru USB.”

I ddathlu’r lansiad swyddogol heddiw, roedd bws newydd mewn lifrau aur yn cael ei arddangos ar gampws Coleg y Cymoedd yn Nantgarw er mwyn i fyfyrwyr gael ei weld cyn iddo ddechrau cludo teithwyr ddydd Mawrth 12 Rhagfyr. Cafodd myfyrwyr eu gwahodd i fynd ar y bws newydd, ac meddai Judith Evans, Pennaeth Coleg y Cymoedd: “Mae’r buddsoddiad hwn gan Stagecoach i’w groesawu’n fawr. Mae ar ein dysgwyr angen trafnidiaeth dda a dibynadwy er mwyn cyrraedd campysau’r coleg. Bydd ein dysgwyr yn gallu manteisio ar gyfleusterau gwell a fydd yn ei gwneud yn bosibl iddynt astudio wrth deithio, a byddant yn gallu monitro amserau bysiau er mwyn teithio’n ddiogel a chyrraedd yn brydlon.”

Meddai Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth: “Mae’r cerbydau hyn yn fuddsoddiad sylweddol gan Stagecoach, a chafwyd sawl buddsoddiad tebyg yng nghymoedd y de yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Rwy’n siŵr y bydd y bysiau newydd yn gwneud llawn cymaint o argraff ar y teithwyr ag y maent wedi’i gwneud arnom ni.

Yn uwch-gynhadledd flynyddol gyntaf Cymru ar gyfer y diwydiant bysiau yn gynharach eleni, buom nid yn unig yn trafod yr heriau y mae’r diwydiant bysiau’n eu hwynebu ar hyn o bryd, ond hefyd yn dechrau mapio dyfodol cynaliadwy, mwy hirdymor ar gyfer gwasanaeth cyhoeddus sy’n hollbwysig.

Mae pob un ohonom yn awyddus i gael system drafnidiaeth gynaliadwy o’r radd flaenaf yng Nghymru. Mae gwasanaethau bysiau lleol yn gwneud cyfraniad pwysig iawn at wireddu ein dyheadau ar gyfer trafnidiaeth leol a gwella ansawdd yr aer.”

Mae gan bob un o fysiau aur unllawr Stagecoach injan Euro 6 sy’n diffodd pan fydd y bws yn llonydd, sy’n fwy cyfeillgar i’r amgylchedd, ac sydd wedi’i dylunio i leihau allyriadau o’r ecsôst. Mae’r fflyd hefyd yn defnyddio cymysgedd mwy gwyrdd o danwydd sy’n cynnwys hyd at 30% o fiodanwydd wedi’i ailgylchu a 70% o ddiesel â lefel isel o sylffwr er mwyn lleihau allyriadau CO2.

Bydd pedwar ar hugain o fysiau aur newydd sbon Stagecoach yn rhedeg ar hyd llwybr 120/130 bob 10 munud o ddydd Llun i ddydd Sadwrn yn ystod y dydd, a phob awr drwy’r rhan fwyaf o ddydd Sul a chyda’r hwyr.

Mae’r llawr isel sydd wrth ddrws bysiau aur Stagecoach yn golygu bod mynd i mewn i’r cerbyd yn haws i’r sawl sy’n defnyddio cadair olwyn a chadair wthio a’r sawl sydd ag anawsterau symud. Gellir cludo cadair olwyn yn ddiogel ar bob cerbyd, ac mae’r gyrwyr wedi’u hyfforddi i ddarparu cymorth os bydd angen.


Mae mwy o wybodaeth i’w chael gan Stagecoach yn Ne Cymru yma.

Gold%20Launch%20267.JPG

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon