Newidiadau’n ymwneud â gwasanaethau Express Motors / D Jones & Son
23 Rhagfyr 2017Ni fydd dau gwmni yn y gogledd yn rhedeg gwasanaethau o fis Rhagfyr 2017 ymlaen. Mae cynghorau Gwynedd, Wrecsam a Sir Ddinbych wedi bod wrthi’n ceisio trefnu gwasanaethau i gymryd lle gwasanaethau Express Motors a D Jones & Son.
Bydd Express Motors o Ben-y-groes yn gorffen gweithredu ddydd Sul 31 Rhagfyr 2017 a rhoddodd D Jones & Son y gorau i fasnachu ddydd Sul 17 Rhagfyr 2017.
Mae rhagor o wybodaeth am weithredwyr newydd a fydd yn cael eu contractio i gymryd gwasanaethau drosodd oddi wrth Express Motors a D Jones & Son i’w gweld ar ein tudalen am broblemau teithio. Fel arall gallwch ffonio ein rhif rhadffôn, sef 0800 464 0000.
Byddwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi wrth i ni ei chael.
Isod ceir amserlenni ar ffurf dogfennau pdf, ac rydym yn bwriadu eu hychwanegu at ein cynlluniwr taith cyn gynted ag sy’n bosibl.
D Jones and Son
20/12/2017
Express Motors
02/01/2018