
Her Feicio Cyclone24 Cymru. Ydych chi am fentro i’r felodrom yn 2018?
12 Mehefin 2018Bydd her feicio epig yn digwydd yn Felodrom Cenedlaethol Cymru ar 21 a 22 Hydref eleni, lle bydd tîm o unigolion yn beicio’r naill ar ôl y llall dros gyfnod o 24 awr yn ddi-stop.
24 tîm, 24 awr, 1 felodrom – Rhowch brawf ar eich cryfder, eich penderfyniad a’ch gallu i gyd-dynnu yn yr her feicio flynyddol hon.
Mae croeso i bawb o bob gallu gymryd rhan. P’un a ydych yn rhywun sydd newydd ddechrau beicio, yn rhywun sy’n ymarfer ar gyfer triathlon neu’n rhywun sy’n hoffi chwaraeon eithafol, mae’r digwyddiad hwn yn addas ar gyfer y tîm cyfan. Dyma’r unig her feicio 24 awr mewn felodrom sydd i’w chael yn y DU, ac mae’n cynnig profiad hollol wahanol ac unigryw. Byddwch mewn tîm o 6 pherson a fydd yn beicio’r naill ar ôl y llall, a bydd sesiynau hyfforddi a beiciau trac yn cael eu darparu.
Ydych chi am fentro i’r felodrom yn 2018?
Mae manylion llawn am yr her a sut y dylech gofrestru ar gael ar wefan Cyclone24 yma.