
Cyfle i gael swydd gyda Bus Users Cymru. Rheolwr Rhaglenni
19 Mehefin 2018Rheolwr Rhaglenni
Caerdydd, De Morgannwg
£21,500 y flwyddyn
Mae cyfle cyffrous wedi codi i fod yn aelod o dîm Bus Users UK yng Nghymru. Byddai’r swydd am gyfnod penodol o 6 mis gyda’r posibilrwydd o gael swydd barhaol wedyn.
Rydym yn chwilio am Reolwr Rhaglenni i gynorthwyo’r gwaith o gyflawni strategaeth Bus Users UK yng Nghymru. Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am reoli’r swyddfa yng Nghaerdydd, a’i staff a’i swyddogaethau, a bydd yn gyfrifol am arwain y gwaith o drefnu digwyddiadau a’r gwaith o hybu a datblygu rhwydwaith o grwpiau/canghennau ledled Cymru.
Mae hon yn swydd amser llawn yn y swyddfa yng Nghaerdydd, a’r cyflog yw £21,500.
Prif ddyletswyddau
- Hybu a chynorthwyo’r gwaith o ddatblygu a chyflawni nodau ac amcanion Bus Users UK, a chymryd camau rhagweithiol i adnabod cyfleoedd newydd ar gyfer y sefydliad
- Cynorthwyo i greu a datblygu grwpiau neu ganghennau newydd, gan dargedu ardaloedd sy’n gweld newid sylweddol yn eu darpariaeth leol o ran gwasanaethau bws
- Gweithio gyda’r Cyfarwyddwr a’r tîm i ddatblygu a gweithredu ymgyrchoedd recriwtio cefnogwyr, sy’n ennyn diddordeb pobl, sy’n cael llawer o effaith, sy’n arloesol ac sy’n cyd-fynd â’n hamcanion strategol
- Bod yn bwynt cyswllt ac yn ffynhonnell cymorth i grwpiau/canghennau Bus Users UK ledled Cymru, ac amlygu unrhyw gysylltiadau neu gyfleoedd i gefnogi gweithgareddau mewn ardaloedd lleol
- Gweithio gyda’r Cyfarwyddwr a’r tîm ehangach i ddatblygu a gweithredu strategaeth sy’n sicrhau’r budd mwyaf i bawb o fod yn gefnogwr, yn gangen neu’n grŵp cysylltiedig
- Cyflawni unrhyw ddyletswyddau eraill y gallai eich rheolwr llinell ofyn i chi ymgymryd â nhw o dro i dro, sy’n cyd-fynd â lefel eich gallu ac sy’n cynorthwyo’r tîm
- Rheoli’r staff sy’n gweithio i Bus Users Cymru yn ein swyddfa yng Nghaerdydd, a sicrhau bod y swyddfa’n cael ei rheoli a’i rhedeg yn effeithiol
- Goruchwylio gwaith a datblygiad y Gweinyddwyr Cwynion yn Bus Users Cymru, gan sicrhau bod gweithdrefnau’n cael eu dilyn, bod adroddiadau’n cael eu llunio a bod amserlenni targedau’n cael eu bodloni
- Yn unol â’r cynllun strategol, datblygu digwyddiadau lle gall aelodau’r cyhoedd fynegi eu barn am drafnidiaeth leol
- Casglu a dadansoddi data a gesglir drwy amrywiaeth o weithgareddau Bus Users Cymru, gan lunio a rhannu adroddiadau cywir a chraff y mae eu cymhlethdod yn amrywio fel y bo angen a chan sicrhau bod digwyddiadau o bwys yn cael eu dwyn i sylw’r rheolwr (rheolwyr) perthnasol ac yn cael eu cyflwyno i’w hystyried at ddibenion cysylltiadau cyhoeddus a chyfathrebu
- Cyfrannu at lefel o broffesiynoldeb ym mhob agwedd ar waith cyfathrebu mewnol ac allanol, sy’n gyson â brand y sefydliad
- Cyfrannu’n adeiladol at les a datblygiad y tîm yn Lloegr a chydweithwyr yn swyddfeydd eraill Bus Users UK
Manyleb person
- Profiad o reoli swyddfa
- Profiad o reoli staff
- Profiad o weithredu a datblygu strategaeth
- Profiad o drefnu digwyddiadau
- Profiad ym maes datblygu sefydliadol
- Sgiliau trafod a chyfathrebu
- Profiad o ddatblygu cydberthnasau allanol
- Profiad ym maes cysylltiadau cyhoeddus/y cyfryngau
- Profiad o reoli prosiectau
- Sgiliau dadansoddi, sgiliau rhifedd a’r gallu i ddefnyddio TG
- Y gallu i’ch cymell eich hun yn hyderus i weithio, a’r gallu i flaenoriaethu a chynllunio
- Y gallu i ysgrifennu adroddiadau cryno a chlir a rhoi cyflwyniadau
- Profiad o reoli sawl blaenoriaeth sensitif o ran amser
- Sgiliau cyfathrebu ardderchog, a phrofiad o ymwneud ag amryw randdeiliaid
- Y gallu i roi sylw i fanylion, gweithio’n rhesymegol, a chyflawni gwaith ymarferol
- Profiad o wahanol fathau o amgylcheddau TG
- Dealltwriaeth dda o’r we a chyfryngau cymdeithasol
- Y gallu i reoli a chymell pobl eraill
- Dealltwriaeth o ddeddfau/materion sy’n ymwneud â diogelu data a pharchu cyfrinachedd
- Dealltwriaeth o’r diwydiant bysiau
- Ymrwymiad i sicrhau trafnidiaeth gyhoeddus effeithiol
- Parodrwydd i deithio yng Nghymru a theithio weithiau i rannau eraill o’r DU, a’r gallu i weithio y tu allan i oriau swyddfa arferol o gael rhywfaint o rybudd
Dyddiad dechrau: Canol mis Gorffennaf
Caiff y cyfweliadau eu cynnal ddydd Mawrth 17 Gorffennaf 2018.
I ymgeisio am y swydd uchod, dylech anfon eich CV a llythyr eglurhaol sy’n nodi pam yr ydych o’r farn mai chi yw’r person iawn ar gyfer y swydd, nad yw’n fwy na 2 ddalen A4 o hyd.
Fel cyflogwr cyfle cyfartal, mae Bus Users UK wedi ymrwymo i amrywiaeth a chydraddoldeb ac mae’n croesawu ceisiadau gan bawb.