Y Cerdyn Heneiddio'n Dda
11 Gorffennaf 2018Beth ydi o?
Mae’r Cerdyn Heneiddio’n Dda yn cefnogi pobl hŷn i gynnal eu hannibyniaeth a pharhau i wneud y pethau sydd o bwys iddyn nhw.
Mae’r cardiau’n cynnwys negeseuon syml y gellir eu defnyddio i roi gwybod i bobl y gallai fod angen ychydig o help neu gefnogaeth arnoch ac maent yn cael eu darparu mewn waled cerdyn teithio y gellir ei adnabod yn hawdd.
Mae’r cynllun yn seiliedig ar y cynlluniau cardiau Better Journey a Safe Journey a ddatblygwyd gan First Group, ac mae wedi’i gynllunio i ategu cynlluniau rhanbarthol sy’n bodoli eisoes fel Pasbort Sir Benfro a’r Waled Oren.
Lle ydw i’n gallu defnyddio’r cardiau?
Mae Cardiau Heneiddio’n Dda wedi’u cynllunio i’w defnyddio mewn amryw o sefyllfaoedd a lleoedd. Gallant fod yn arbennig o ddefnyddiol mewn siopau, caffis, bwytai, banciau, fferyllfeydd, ac ar gludiant cyhoeddus, lle gallwch eu defnyddio i adael i bobl wybod y byddech yn hoffi ychydig o help neu gefnogaeth ychwanegol.
Ym mha ffordd arall alla i gefnogi’r cynllun?
Soniwch wrth ffrindiau, cydweithwyr a chymdogion am y cynllun Cerdyn Heneiddio’n Dda.
Siarad i fusnesau lleol a gofynwch os byddent yn hapus i gefnogi’r cynllun.
Sut all fy sefydliad neu fusnes gymryd rhan?
Nid oes angen unrhyw hyfforddiant arbennig i gefnogi cynllun Cerdyn Heneiddio’n Dda. Rhowch wybod i’ch staff a’ch cydweithwyr am y cynllun a gofynnwch iddynt adnabod y cardiau ac ymateb i bobl gyda cherdyn. Mae hon yn ffordd wych i ddechrau gwneud eich busnes yn fwy ystyriol o oed.
Ewch i wefan Heneiddio’n Dda yng Nghymru yma i gael gwybod mwy am y Cerdyn Heneiddio’n Dda a chael gwybod sut y gallwch gael gafael ar y cardiau a chefnogi’r cynllun.