Newyddion

Stagecoach Poppy Appeal

Stagecoach yn ne Cymru yn Cefnogi Apêl y Pabi 2018

06 Tachwedd 2018

Mae Stagecoach yn Ne Cymru yn cefnogi aelodau a chyn-aelodau’r lluoedd arfog ar Sul y Cofio eleni (11 Tachwedd 2018).

Eleni, yn rhan o weithgarwch y cwmni trafnidiaeth i gofio cyfraniad milwyr a dinasyddion o Brydain a’r Gymanwlad a wasanaethodd yn y ddau ryfel byd a brwydrau mwy diweddar gwnaed cyfraniad at gronfa’r Lleng Brydeinig Frenhinol, sy’n galluogi pob gyrrwr sy’n dewis gwisgo pabi i wneud hynny.

Ar Sul y Cofio, bydd Stagecoach yn Ne Cymru hefyd yn cynnig teithiau rhad ac am ddim i aelodau’r lluoedd arfog sydd â cherdyn adnabod ac i gyn-filwyr sy’n gwisgo bathodyn cyn-filwr. Bydd posteri ar y bysiau’n annog pobl i gyfrannu at yr ymgyrch drwy anfon neges destun.

Mae Sul y Cofio yn ddiwrnod i Brydain gofio ac anrhydeddu’r sawl a’u haberthodd eu hunain er mwyn sicrhau a diogelu ein rhyddid ni.

Eleni, bydd Castell Caerdydd yn gartref i ddigwyddiad ‘Field Of Remembrance’ ddydd Mercher 7 Tachwedd o 11am. Mae’r manylion llawn ar gael yma:

https://www.britishlegion.org.uk/remembrance/remembrance-events/fields-of-remembrance/

Y gobaith yw y bydd milwyr a chyn-filwyr sy’n dymuno mynd yno i dalu teyrnged i’r rhai a fu farw yn achub ar y cyfle i deithio i’r digwyddiad o leoliadau yn y de. Mae gwasanaethau 132, 25, 26, X3, X4,T4,124,136,122 yn gweithredu i Gaerdydd, a gallwch gynllunio eich taith yma: https://www.stagecoachbus.com/

Meddai Rheolwr Gyfarwyddwr Stagecoach yn Ne Cymru, Nigel Winter: “Rydym yn falch o fod yn cefnogi Sul y Cofio yn y modd hwn unwaith yn rhagor. Eleni, 100 mlynedd ar ôl i’r Rhyfel Byd cyntaf ddod i ben, rydym yn cynorthwyo ein lluoedd arfog i ddweud ‘diolch’ i bawb sydd wedi gwasanaethu, aberthu a newid ein byd.

“Trwy ddangos cefnogaeth fel hyn, rydym yn gobeithio y gallwn anfon neges glir at gymunedau ein lluoedd arfog yn y de ein bod yn gwerthfawrogi ac yn cydnabod eu hymrwymiad i Brydain dros y blynyddoedd.”

Llofnododd Grŵp Stagecoach Gyfamod Corfforaethol Lluoedd Arfog y Weinyddiaeth Amddiffyn i gefnogi cymuned ein lluoedd arfog. Fel cwmni sydd wedi llofnodi’r Cyfamod, mae Stagecoach yn cydnabod gwerth milwyr sy’n gwasanaethu’n rheolaidd ar hyn o bryd, milwyr wrth gefn, cyn-filwyr a theuluoedd milwyr sy’n cyfrannu i’r wlad ac i fusnesau ledled y wlad.

 

I gael rhagor o wybodaeth am Stagecoach UK Bus, ewch i www.stagecoachbus.com

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon