Newyddion

Transport for Wales

Gweithwyr y gwasanaethau brys yn gallu teithio’n rhad ac am ddim ar wasanaethau Trafnidiaeth Cymru dros gyfnod y Nadolig

18 Rhagfyr 2018

Mae Trafnidiaeth Cymru yn caniatáu i weithwyr y gwasanaethau brys deithio’n rhad ac am ddim ar ei wasanaethau trên dros gyfnod y Nadolig.


Rhwng 14 Rhagfyr a 4 Ionawr, gall y sawl sy’n gweithio i’r gwasanaethau brys deithio ar wasanaethau Trafnidiaeth Cymru yn rhad ac am ddim. Mae’r bobl hynny’n cynnwys holl aelodau’r gwasanaeth tân ac achub, y gwasanaeth ambiwlans, Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub a gwylwyr y glannau. Mae’r cynnig hwn eisoes ar gael i swyddogion heddlu. 

Gall gweithwyr y gwasanaethau brys, sydd ar ddyletswydd neu sy’n teithio i’r gwaith neu’n teithio adref o’r gwaith, fanteisio ar y cynnig hwn. Mae’n rhaid bod ganddynt eu bathodyn adnabod ac mae’n rhaid eu bod yn gwisgo eu gwisg swyddogol. 

Hwn yw’r Nadolig cyntaf i Trafnidiaeth Cymru fod yn gweithredu ers iddo olynu Trenau Arriva Cymru ym mis Hydref. Dyma ddechrau contract 15 mlynedd ar gyfer y fasnachfraint sy’n cael ei gweithredu ar ran Llywodraeth Cymru. 

Yn ôl Cyfarwyddwr Profiad y Cwsmer, Colin Lea, mae’r cynnig hwn yn cydnabod y “gwaith gwych” y mae’r gwasanaethau brys yn ei wneud.

 

Ffynhonnell y wybodaeth: Wales Online

 

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon