Newyddion

Stagecoach South Wales

Gyrwyr bysiau Stagecoach yn arwain y ffordd mewn cynllun i hybu gyrru’n ddiogel a defnyddio tanwydd yn effeithlon

07 Mawrth 2019

  • 125 o weithwyr Stagecoach yn Ne Cymru yn ennill statws ‘Fleet Elite’ GreenRoad
  • System ddiogelwch a thelemateg uwch yn gwirio technegau gyrru bob amser ac yn helpu i ddefnyddio tanwydd yn effeithlon

Mae gyrwyr bysiau Stagecoach yn arwain y ffordd mewn rhaglen fyd-eang o fri ar gyfer mesur perfformiad, a hynny am y bumed flwyddyn yn olynol.

Mae cyfanswm o 4,494 o yrwyr Stagecoach, gan gynnwys 125 o yrwyr o dde Cymru, wedi ennill statws ‘Fleet Elite’ a bathodyn arbennig dan raglen gynhwysfawr ar gyfer mesur diogelwch wrth yrru, a reolir gan GreenRoad. Mae system ddiogelwch a thelemateg GreenRoad yn gwasanaethu gyrwyr proffesiynol yn y DU, Iwerddon, Ewrop, y Dwyrain Canol, America, Awstralia a Seland Newydd.

Mae dros 558 o yrwyr Stagecoach sydd wedi ennill statws ‘Fleet Elite’ wedi cael bathodyn Aur am lwyddo, dros gyfnod o dair blynedd yn olynol, i gynnal eu statws ‘Fleet Elite’ am yrru’n ddiogel gan ddefnyddio tanwydd yn effeithlon.

Mae 2,100 wedi ennill statws ‘Master Fleet Elite’ am gynnal eu statws dros gyfnod o bedair blynedd neu fwy’n olynol. Mae hynny’n gynnydd o 8.7% o gymharu â’r llynedd, ac mae’n adlewyrchu llwyddiant agwedd ddigyfaddawd Stagecoach at ddiogelwch ac yn adlewyrchu buddsoddiad parhaus y cwmni mewn hyfforddiant i’w yrwyr.

Mae system ddiogelwch GreenRoad wedi cael ei gosod ar holl gerbydau Stagecoach, ac mae wedi bod yn eithriadol o effeithiol o safbwynt helpu gyrwyr i wella eu sgiliau. Gan ddefnyddio system LED syml ar y dangosfwrdd, sy’n debyg i oleuadau traffig, mae GreenRoad yn rhoi adborth i yrwyr yn syth ynghylch eu technegau gyrru ac yn eu hannog i yrru’n fwy esmwyth a diogel gan ddefnyddio tanwydd yn fwy effeithlon.

Mae bron hanner y 9,842 o yrwyr ledled y byd a fodlonodd safon ‘Fleet Elite’ yn 2018 yn yrwyr i Stagecoach. Llwyddodd mwy o weithwyr Stagecoach nag unrhyw weithredwr bysiau arall – ac unrhyw gwmni arall – i ennill statws ‘Fleet Elite’ yn y cynllun sydd ar waith ym mhob cwr o’r byd.

I ennill statws ‘Fleet Elite’, rhaid i yrwyr achosi cyfartaledd o bump neu lai o ‘ddigwyddiadau’ gyrru annerbyniol, megis brecio neu gyflymu’n sydyn, am bob 10 awr o yrru yn ystod y flwyddyn galendr gyfan. Mae’n werth nodi bod 102 o yrwyr Stagecoach wedi llwyddo i gael sgôr o sero – sef y sgôr berffaith – yn ystod y cyfnod hwn.

Mae ymchwil GreenRoad yn dangos bod penderfyniadau gyrru’n gyfrifol am hyd at 33% o’r arian a gaiff ei wario ar danwydd, ac y gall hyd yn oed gyrwyr profiadol wella’r graddau y maent yn defnyddio tanwydd yn effeithlon o gael yr arweiniad cywir. Hyd yma mae defnyddio system GreenRoad, ynghyd â llwyddiant rhaglen gynhwysfawr Stagecoach o hyfforddiant i’w yrwyr, wedi helpu’r cwmni i sicrhau gwelliant o 3% yn y graddau y mae’n defnyddio tanwydd yn effeithlon ym mhob agwedd ar ei weithrediadau.

Meddai Nigel Winter, Rheolwr Gyfarwyddwr Stagecoach yn Ne Cymru: “Mae ein gyrwyr yn dal i sicrhau canlyniadau gwych dan y cynllun ‘Fleet Elite’. Mae cyflawniadau eleni’n adlewyrchu unwaith yn rhagor yr hyfforddiant trylwyr y mae ein gyrwyr yn ei gael a’r technegau gyrru proffesiynol y mae ein gweithwyr yn eu dangos bob dydd ar hyd y ffyrdd.

“Mae gyrru’n esmwyth gan ddefnyddio tanwydd yn effeithlon yn fwy diogel ac yn sicrhau teithiau mwy cyffyrddus i’n cwsmeriaid, ac mae hefyd yn ein helpu i leihau ein hôl troed carbon.”

Meddai David Ripstein, Prif Weithredwr GreenRoad: “Hoffem longyfarch Stagecoach ar flwyddyn eithriadol arall pan lwyddodd bron 4,500 o weithwyr y cwmni i ennill statws ‘Fleet Elite’, sy’n gofyn llawer ganddynt. Mae’r ystadegyn hwn yn dangos yr agwedd ddigyfaddawd sydd gan Stagecoach at ddiogelwch ei gwsmeriaid, ac yn dangos bod y cwmni’n ymddwyn yn gyfrifol o safbwynt amgylcheddol ym mhob agwedd ar ei weithrediadau. Rydym yn ymfalchïo yn y rhan y mae ein technoleg ni yn ei chwarae ym mherfformiad clodwiw Stagecoach, ac rydym yn herio’r cwmni i ychwanegu mwy fyth o yrwyr at rengoedd ‘Fleet Elite’ yn ystod y blynyddoedd sydd i ddod.”

Mae Stagecoach yn Ne Cymru wedi buddsoddi bron £30 miliwn dros y 10 mlynedd diwethaf mewn prynu cerbydau newydd i gymunedau lleol ar draws de Cymru. Mae’r cerbydau hynny’n lanach ac yn fwy caredig i’r amgylchedd, ac mae llawer ohonynt yn cynnig Wi-Fi, pwyntiau gwefru rhad ac am ddim, cyhoeddiadau dwyieithog ynghylch yr arhosfan nesaf, a thechnoleg sy’n diffodd ac yn tanio’r injan yn ôl yr angen. At hynny, mae cyfleuster talu digyffwrdd wedi cael ei lansio ar bob un o gerbydau Stagecoach ledled y de, yn ogystal â thocynnau ar ddyfeisiau symudol a chlyfar.

 

Gellir cael rhagor o wybodaeth am Stagecoach UK Bus yma: www.stagecoachbus.com

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon