Newyddion

Gwobrau Cludiant Cymunedol

Mae modd cyflwyno enwebiadau ar gyfer Gwobrau Cludiant Cymunedol 2019 yn awr!

06 Mehefin 2019

Mae ‘Gwobrau Cludiant Cymunedol’ y Gymdeithas Cludiant Cymunedol yn clodfori gwaith gwych y diwydiant a’i aelodau. Cynhelir seremoni wobrwyo 2019 ym Manceinion yn rhan o ddigwyddiad deuddydd ‘CT ’19’ y sefydliad. Mae’r digwyddiad hwn yn gyfle i aelodau’r sector cludiant cymunedol rwydweithio, cydweithio a dathlu llwyddiannau’r diwydiant dros y 12 mis diwethaf.

Bydd y gwobrau’n tynnu sylw at enghreifftiau o ragoriaeth yn y sector cludiant cymunedol gan gydnabod cyflawniadau sefydliadau ac unigolion.

Mae modd i aelodau’r Gymdeithas Cludiant Cymunedol gyflwyno enwebiadau yn awr ac enwebu eu sefydliad eu hunain, darparwyr eraill cludiant cymunedol, ac unigolion. Yn y categorïau lle rhoddir gwobr i unigolyn, mae’n rhaid cael enwebiad gan drydydd parti. Mae 10 categori i gyd, sef:

 

1.       Darparwr Cludiant Cymunedol y Flwyddyn

2.       Gwirfoddolwr y Flwyddyn

3.       Hyrwyddwr Cludiant Cymunedol

4.       Gyrrwr y Flwyddyn y Cynllun Ymwybyddiaeth i Yrwyr Bysiau Mini (MiDAS)

5.       Gwneud Pethau’n Wahanol

6.       Gwasanaethu Cymunedau Gwledig

7.       Cynllun Ceir Gwirfoddol y Flwyddyn

8.       Partneriaeth y Flwyddyn

9.       Cystadleuaeth Ffotograffau

10.   Gwobr Cyflawniad Oes

 

Gallwch gyflwyno eich enwebiad ar wefan y Gymdeithas Cludiant Cymunedol; rhaid cyflwyno enwebiadau erbyn canol dydd ar 8 Awst 2019.

Mae’r digwyddiad hwn yn ddathliad gwirioneddol o’r gwaith ysbrydoledig a gyflawnir gan aelodau’r Gymdeithas Cludiant Cymunedol yn eu cymuned. Gallwch gael gwybod mwy am ‘CT ’19’ a chadw eich lle yma.

 
Ffynhonnell y wybodaeth: Y Gymdeithas Cludiant Cymunedol

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon