Newyddion

16-17 Railcard

Hyd at 1.2 miliwn o bobl ifanc 16 ac 17 oed yn gallu elwa o docynnau trên hanner pris

14 Gorffennaf 2019

  • Yn gynharach eleni cyhoeddodd Ysgrifennydd Trafnidiaeth Llywodraeth y DU, Chris Grayling, y byddai’r cynllun tocynnau trên hanner pris i blant yn cael ei ehangu fel ei fod yn cynnwys pobl ifanc 16 ac 17 oed hefyd.
  • Mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i helpu pobl ifanc i deithio i’r ysgol, i sefydliadau hyfforddiant ac i’r gwaith ar y rhwydwaith rheilffyrdd.
  • Bydd y cerdyn rheilffordd newydd yn ddilys tan ben-blwydd y deiliad yn 18 oed.

Yn nes ymlaen eleni, bydd pobl ifanc 16 ac 17 oed ledled y DU yn gallu elwa o’r ffaith bod cerdyn rheilffordd newydd yn cael ei lansio, a fydd yn rhoi hawl i ddeiliad y cerdyn gael tocyn trên hanner pris. Yn wahanol i’r cerdyn presennol ar gyfer pobl ifanc 16-25 oed, mae’r disgownt yn berthnasol hefyd i docynnau tymor a thocynnau ar gyfer yr oriau brig. Mae hynny’n golygu y bydd pobl ifanc yn gallu arbed mwy fyth o arian wrth deithio i’r ysgol, i sefydliadau hyfforddiant ac i’r gwaith.

Bydd hyd at 1.2 miliwn o bobl ifanc yn gymwys i elwa o’r cynllun. Mae’r cynllun hwn yn dilyn cynllun arall a gyflwynwyd ym mis Ionawr eleni, sef y cerdyn rheilffordd i bobl ifanc 26-30 oed, sy’n cynnig 1/3 oddi ar bris y rhan fwyaf o docynnau trên ar gyfer miliynau o ddefnyddwyr rheilffyrdd ledled y DU.

Meddai Ysgrifennydd Trafnidiaeth Llywodraeth y DU, Chris Grayling:

Bydd y cardiau rheilffordd newydd ar gyfer pobl ifanc 16 ac 17 oed a 26-30 oed yn gostwng prisiau tocynnau ar gyfer cenhedlaeth gyfan o deithwyr, ac yn sicrhau bod mwy o bobl ifanc nag erioed yn gallu manteisio ar deithiau rhatach ar ein rheilffyrdd.

Gallai’r cerdyn rheilffordd newydd ar gyfer pobl ifanc 16 ac 17 oed arbed cannoedd o bunnoedd y flwyddyn ar gostau teithio i bobl ifanc a’u rhieni gan ei gwneud yn rhatach i bobl ifanc deithio i’r ysgol, i’r coleg ac i’r gwaith.

Mae’r cynllun hwn yn adeiladu ar y cerdyn rheilffordd newydd ar gyfer pobl ifanc 26-30 oed ac ar ein buddsoddiad mwyaf erioed yn ein rheilffyrdd, a bydd yn sicrhau bod pobl yn cael y teithiau mynych, fforddiadwy a dibynadwy y maent yn eu haeddu.”

Bydd gan ddeiliaid y cerdyn newydd hawl i gael 50% oddi ar bris eu tocynnau trên tan eu pen-blwydd yn 18 oed. Bydd manylion ynghylch sut mae gwneud cais am y cerdyn rheilffordd newydd ar gyfer pobl ifanc 16 ac 17 oed yn cael eu cyhoeddi yn nes ymlaen yn yr haf. Bydd y cynllun yn cael ei weithredu ledled y DU, sy’n golygu y bydd y disgownt yn berthnasol i wasanaethau Great Western Railway a Trafnidiaeth Cymru.

 

Ffynhonnell y wybodaeth: https://www.gov.uk/government/news/grayling-slashes-rail-fares-for-a-generation-of-rail-passengers

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon