Pwy yw’r llais y tu ôl i’r cyhoeddiadau a glywir ar fysiau yng Nghymru?
01 Tachwedd 2019Os ydych wedi dal bws yn y de, byddwch wedi clywed llais Sara Owen Jones – un o’r bobl enwocaf nad ydych erioed wedi’i gweld.
Mae miloedd o ddefnyddwyr bysiau ledled y de yn clywed ei llais melfedaidd bob dydd, ond tan nawr doedd neb yn gwybod pwy oedd hi.
Sara – sy’n gweithio yng nghanolfan alwadau Traveline Cymru ym Mhenrhyndeudraeth – yw’r llais a glywir ar fysiau ers i gyhoeddiadau dwyieithog am yr arhosfan nesaf gael eu cyflwyno ar fysiau er mwyn cydymffurfio â Safonau’r Gymraeg.
Mae Sara, sy’n siarad Cymraeg yn rhugl, yn hanu o Borthmadog a hi yw’r llais y tu ôl i gyhoeddiadau sawl gweithredwr, gan gynnwys Newport Bus, Bysiau First Cymru a New Adventure Travel.
Camodd Traveline Cymru i’r adwy er mwyn sicrhau bod gweithredwyr bysiau’n gallu darparu eu gwasanaethau’n ddwyieithog, drwy gynnig recordio cyhoeddiadau gan Sara ynghylch yr arhosfan nesaf.
Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi mewn offer clyweled ar fysiau er mwyn gallu darparu cyhoeddiadau ynghylch yr arhosfan nesaf, ac mae’r gwelliannau a wnaed yn cydymffurfio â nod Safonau’r Gymraeg, sef sefydlu hawliau a rhyddid ar gyfer defnyddwyr y Gymraeg drwy sicrhau bod pob sefydliad cyhoeddus yn cynnig ei wasanaethau’n ddwyieithog.
Meddai Sara wrth sôn am ei phrofiad: “Dechreuais i drwy recordio negeseuon ‘Ymateb Llais Rhyngweithiol’ ar gyfer y ganolfan alwadau, a datblygodd y cyfan o hynny mewn gwirionedd.
“Cefais wybod fod gen i lais persain ac, yn y bôn, mai fi fyddai’n gwneud y recordiadau.
“Roedd y broses yn ddigon syml. Roedd yn rhaid i fi eistedd o flaen gliniadur mewn ystafell dawel, gwisgo penset a dweud enw pob arhosfan un wrth un. Byddai enw Cymraeg yr arhosfan yn cael ei recordio gyntaf a byddai’r enw Saesneg yn ei ddilyn.
“Rwy’n falch iawn i fi gael fy newis, hyd yn oed os yw gwrando ar fy llais fy hun ar y bws yn brofiad braidd yn rhyfedd.”
Meddai Jo Foxall, Rheolwr Gyfarwyddwr Traveline Cymru: “Mae’r adborth yr ydym wedi’i gael gan gwsmeriaid sy’n siarad Cymraeg wedi bod yn gadarnhaol iawn ers i’r gwasanaeth dwyieithog gael ei gyflwyno ar fysiau.
“Roedd gweithredwyr yn awyddus i ddarparu eu gwasanaethau’n ddwyieithog ar ôl i Safonau’r Gymraeg gael eu cyflwyno. Cysylltodd y gweithredwyr hynny â ni oherwydd ein bod yn cael ein hystyried yn ddarparwr dwyieithog o safon, ac oherwydd eu bod yn teimlo mai ni oedd yn y sefyllfa orau i wneud hynny.
“Rydym wedi ymrwymo i hybu’r Gymraeg ac rydym am sicrhau bod teithwyr sy’n siarad Cymraeg yn gallu cael gwasanaeth hollol ddwyieithog yn ystod eu taith.”
I gael recordiadau dwyieithog a gwasanaethau cyfieithu cysylltwch â PTI Cymru, y cwmni sy’n rhedeg Traveline Cymru: https://pti.cymru/
-Diwedd-
Ar gyfer ymholiadau gan y cyfryngau, dylid cysylltu â Rhian Richards yn jamjar: 01446 771265 / rhian@jamjar.agency