Newyddion

Buddsoddi £74 miliwn mewn trafnidiaeth fwy gwyrdd yng Nghymru

Buddsoddi £74 miliwn mewn trafnidiaeth fwy gwyrdd yng Nghymru

23 Rhagfyr 2019

Yn ddiweddar, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd yn buddsoddi £74 miliwn mewn trafnidiaeth fwy gwydn, glân a gwyrdd yng Nghymru.

Yn y gyllideb gyntaf ers i Gymru ddatgan argyfwng hinsawdd, bydd cerbydau allyriadau isel a system drafnidiaeth gyhoeddus sy’n fwy gwydn yn ganolbwynt i gronfa sydd wedi’i neilltuo i hybu rhwydwaith trafnidiaeth gwyrdd a mynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd yng Nghymru.

Bydd yr ymrwymiadau gwario yn y gyllideb hon ar gyfer 2020-21 yn cynnwys £29 miliwn i gynorthwyo i gynyddu’r defnydd a wneir o gerbydau allyriadau isel, gyda’r bwriad o gael fflyd o fysiau a thacsis/cerbydau hurio preifat sydd â dim allyriadau o gwbl erbyn 2028. Nod y mesurau hyn fydd gwneud y broses o ddatgarboneiddio trafnidiaeth yn hygyrch i bawb.

Caiff £25 miliwn ei fuddsoddi mewn system ffyrdd sy’n fwy gwydn. Bydd hynny’n golygu amddiffyn y seilwaith rhag llifogydd a mathau eraill o dywydd eithafol a gwneud y rhwydwaith ffyrdd yn fwy dibynadwy.

Caiff £20 miliwn ei glustnodi ar gyfer Metro Gogledd Cymru er mwyn troi’r buddsoddiad yn system drafnidiaeth integredig, fodern ac effeithlon. Bydd y system drafnidiaeth hon yn cynnwys llwybrau beicio, gwasanaethau bws a gwasanaethau trên.

Mae datgarboneiddio trafnidiaeth yn brif thema yn strategaeth drafnidiaeth newydd Llywodraeth Cymru, y mae disgwyl iddi gael ei chyhoeddi tua diwedd 2020.

Meddai Ken Skates, Gweinidog Trafnidiaeth Llywodraeth Cymru: “Rydym am greu rhwydwaith trafnidiaeth modern a chydgysylltiedig sy’n hwyluso newid go iawn mewn dulliau teithio ac sy’n cyflawni ein hamcanion o safbwynt gwella ansawdd yr aer a lleihau allyriadau carbon.

“Mae mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd yn gofyn am newid radical yn y modd yr ydym yn teithio. Bydd buddsoddi yn y mentrau hyn yn mynd â Chymru gam yn nes at greu rhwydwaith trafnidiaeth sy’n fwy gwydn, glân a gwyrdd.

Trwy wella ein seilwaith gwyrdd, gallwn ei gwneud yn haws i bobl deithio mewn ffyrdd sy’n fwy caredig i’r amgylchedd. Mae hynny’n cyd-fynd â gwelliannau i wasanaethau, a fydd yn golygu bod cysylltiadau gwell ar gael ar gyfer pobl, cymunedau a busnesau.”

 

Ffynhonnell yr erthygl: Public Sector Executive

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon