Newyddion

Y diweddaraf am wasanaethau 5 ac X5 New Adventure Travel

Y diweddaraf am wasanaethau 5 ac X5 New Adventure Travel

11 Mawrth 2020

Isod ceir diweddariad gan New Adventure Travel am wasanaethau 5 ac X5:

Mae’n flin iawn gennym gyhoeddi y bydd llwybrau 5 ac X5 yn dod i ben ym mis Mai 2020 ac y byddant yn gweithredu am y tro olaf ddydd Sadwrn 2 Mai. Dyma ddatganiad gan ein Rheolwr Gyfarwyddwr:

“Pan ymunais â’r busnes hwn ganol 2019, penderfynais y byddwn yn dechrau gwneud rhai newidiadau strategol o bwys i gyfeiriad masnachol y busnes ddechrau 2020. Roedd y dyddiad hwnnw’n rhoi chwe mis i fi ddadansoddi’r busnes yn fanwl cyn gwneud unrhyw benderfyniadau.

Mae llwybr X5 wedi bod yn llwybr trafferthus ers amser. Mae tagfeydd traffig wedi effeithio arno’n aml, ac mae wedi bod yn wasanaeth anodd i’w redeg yn ddibynadwy oherwydd problemau ar yr A48 ac yn yr ardal gyfagos, sy’n effeithio yn uniongyrchol ar lwybr X5 i Gasnewydd. At hynny, cafwyd nifer o heriau gweithredol mewnol a oedd yn cynnwys prinder gyrwyr, a achoswyd yn bennaf gan bolisi recriwtio newydd yr oedd angen ei gyflwyno ers amser.

Pan ymunais â NAT Group, cafodd rhai newidiadau eu gwneud a arweiniodd at amserlen ddiwygiedig ac at ddull gweithredu mwy effeithlon o safbwynt ariannol. Bryd hynny, gwnaethom ailenwi pen draw’r llwybr yng Nghasnewydd yn ‘FIVE’. Fodd bynnag, mae perfformiad cyffredinol y llwybr yn dal yn wael dros ben ac rwy’n credu yn bendant erbyn hyn na fyddwn yn gallu gwneud i’r llwybr berfformio’n gynaliadwy yn y tymor canolig na’r tymor hir chwaith. Felly, mae penderfyniad anodd wedi’i wneud a bydd llwybrau ‘FIVE’ ac X5 yn cael eu canslo o 4 Mai 2020 ymlaen. Bydd y ddau lwybr yn gweithredu am y tro olaf ddydd Sadwrn 2 Mai 2020.

Mae canslo’r llwybrau hyn yn ein galluogi ni fel busnes i ddechrau canolbwyntio mwy ar ein rhwydweithiau dinesig craidd yng Nghaerdydd ac Abertawe ac ar ein rhwydwaith trefol ym Mhontypridd. ‘Cam I’ cynllun gwella ac iddo dri cham ar gyfer NAT Group yw’r newid hwn mewn gwirionedd.

Yn fyr, byddwn yn lleihau maint cyffredinol y cwmni ryw ychydig, a fydd yn ein galluogi i gyflawni’r hyn a wnawn yn well ac, yn anad dim, gyda’r nifer gywir o yrwyr ar y llyfrau. Ar hyn o bryd, mae’r busnes dan bwysau ac yn gwegian ac mae angen gweithredu’n gyflym i’w sefydlogi fel bod gennym seiliau cryf er mwyn ei ddatblygu yn y dyfodol.

Mae gennym Bennaeth Peirianneg newydd ardderchog sy’n cyflwyno gwelliannau’n gyflym i’n cerbydau, ac yn union fel fi mae e’ a gweddill ein tîm wedi ymrwymo’n llwyr i sicrhau bod ein bysiau gyda’r gorau yn ne Cymru. Ar y cyd rydym wedi nodi nifer o newidiadau yr oedd angen eu gwneud o fewn ein busnes, ac mae gwaith ar y gweill i gyflwyno’r newidiadau hynny.

Dydw i ddim yn hoffi gorfod canslo llwybrau, ond mae’n bwysig tynhau gweithrediadau hynod eang NAT er mwyn i ni allu canolbwyntio ar wneud ychydig yn llai, gan sicrhau bod y gwasanaethau a ddarperir gennym yn gynaliadwy ac yn wasanaethau o safon.

Rwy’n ddiolchgar dros ben i’r teithwyr a oedd yn defnyddio llwybrau ‘FIVE’ / X5 a’r sawl a fu’n cefnogi’r gwasanaethau hynny yn ystod adegau anodd. Mae opsiynau teithio amgen ar gael ar gyfer y rhan fwyaf o wahanol rannau’r llwybrau, o ganlyniad i wasanaethau 30, X30, 44 ac ati a oedd yn cystadlu â nhw.”

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon