Newyddion

 © Copyright- Visit Cardiff Network

Plannu blodau gwyllt ar ben arosfannau bysiau yng Nghaerdydd er mwyn helpu i ddenu gwenyn

04 Ebrill 2020

Bwriad y planhigion yw denu amryw bryfed i ganol y ddinas, ac mae mentrau o’r fath wedi’u defnyddio eisoes mewn dinasoedd eraill ledled y byd.

Meddai llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd: "Byddwn yn cyflwyno arosfannau gwenyn yng nghanol y ddinas, lle bydd blodau gwyllt a phlanhigion yn cael eu plannu ar do arosfannau bysiau penodol er mwyn denu pryfed, ac yn bwysicaf oll gwenyn."

Bydd yr arosfannau bysiau’n cael eu cynnal a’u cadw gan gwmni o’r enw Clear Channel.

Yn ninas Utrecht yn yr Iseldiroedd, cafodd blodau gwyllt eu gosod ar dros 300 o arosfannau bysiau’r ddinas yn ystod haf y llynedd. Yn ogystal â hybu bioamrywiaeth y ddinas, megis gwenyn mêl a chacwn, mae’r cysgodfannau hefyd o gymorth i ddal llwch mân a storio dŵr glaw.

Gweithwyr sy’n gyrru o gwmpas mewn cerbydau trydan sy’n gofalu am y toeau, ac mae pob un o’r arosfannau bysiau’n cynnwys goleuadau LED rhad-ar-ynni a meinciau bambŵ.

Dyma un yn unig o nifer o fesurau y mae Utrecht wedi’u cyflwyno er mwyn ceisio gwella ansawdd yr aer. Nod y ddinas yw cael “trafnidiaeth gyhoeddus hollol lân” erbyn 2028, a fydd yn cynnwys bysiau trydan.

Ffynhonnell y wybodaeth: The Telegraph

Delwedd: © Croeso Caerdydd 

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon