Newyddion

Gwasanaeth Newydd X7, Cas-gwent i Fryste yn wedi cychwyn Dydd Llun, 15 Mehefin 2020

Gwasanaeth Newydd X7, Cas-gwent i Fryste yn wedi cychwyn Dydd Llun, 15 Mehefin 2020

17 Mehefin 2020

Mae NAT Group, mewn partneriaeth â TrawsCymru a Chyngor Sir Fynwy, wedi cyhoeddi cynlluniau i barhau â gwasanaeth bws y ‘Severn Express’, sef gwasanaeth bws sy’n gweithredu rhwng Cas-gwent a Bryste ac sy’n mynd drwy Cribbs Causeway a Clifton.

Cafodd y gwasanaeth ei ail-lansio ar 15 Mehefin. Roedd wedi’i weithredu yn flaenorol gan First Group ac yna Stagecoach, ond rhoddwyd y gorau’n anffodus i’w ddarparu. Mae’r gwasanaeth wedi’i ailgyflwyno ar ôl i lawer o bobl fynegi eu barn wrth yr awdurdodau lleol, NAT Group, TrawsCymru a Chyngor Sir Fynwy.

Bydd y gwasanaeth yn galw heibio i Cribbs Causeway ac yn mynd yn ei flaen i Fryste drwy Clifton. Credir mai dyma’r llwybr gorau a fydd yn osgoi tagfeydd andwyol ac a fydd, felly, yn lleihau amserau teithio.

Bydd y gwasanaeth yn cael ei dreialu am chwe mis i ddechrau, a bydd hynny’n galluogi N.A.T. i’w fonitro a gweld a oes angen gwneud unrhyw welliannau iddo, er enghraifft addasu’r amserlen.

Mae ap pwrpasol newydd yn cael ei gyflwyno wrth i’r gwasanaeth gael ei ail-lansio. Bydd yr ap yn cynnig cyfleoedd i gadw sedd ymlaen llaw, tracio bws mewn amser real a thalu ymlaen llaw am docyn heb ddefnyddio arian parod.

Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth am y gwasanaeth.

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon