Newyddion

cardiff-central-station-redecoration-transport-for-wales

Gwaith ailaddurno helaeth yn dechrau yng ngorsaf Caerdydd Canolog yn rhan o Weledigaeth Gwella Gorsafoedd Trafnidiaeth Cymru

05 Gorffennaf 2020

Trio Building Contractors fydd yn cyflawni’r gwaith a fydd yn cynnwys mesurau diogelwch ychwanegol er mwyn helpu i ddiogelu teithwyr rhag Covid-19.

Dechreuodd y gwaith ailaddurno ar Blatfform 0 (wrth ymyl mynedfa flaen yr orsaf) cyn symud i Blatfform 8. I ddechrau, bydd y gwaith yn golygu ailbaentio arwynebau a fydd yn cynnwys ffensys, drysau, polion lampau ac arwyddion.

Bydd lliwiau traddodiadol presennol Great Western Railway yn cael eu defnyddio oherwydd bod gorsaf Caerdydd Canolog yn adeilad rhestredig.

Meddai James Price, Prif Weithredwr Trafnidiaeth Cymru:

“Gorsaf Caerdydd Canolog yw ein gorsaf brysuraf, a’r porth i’n prifddinas.

“Mae’n wych ein bod yn gallu bwrw ymlaen â’r gwaith ailaddurno helaeth a’n bod yn gallu dechrau gwireddu ein Gweledigaeth Gwella Gorsafoedd, wrth i ni barhau i weddnewid trafnidiaeth ar draws Cymru a’r Gororau.”

Mae cam hwn y Gwaith Gwella Gorsafoedd wedi’i ddechrau yn gynnar oherwydd bod llai o deithwyr yn yr orsaf o ganlyniad i’r pandemig Covid-19. At hynny, mae unedau storio beiciau wedi’u gosod yng ngorsaf y Fenni ac mae cyfleusterau newydd ar gyfer storio beiciau wrthi’n cael eu gosod yn Frodsham a Helsby.

Mae’r gwaith hwn yn dilyn gwaith a gyflawnwyd gan Network Rail a Trafnidiaeth Cymru y llynedd i osod atalfeydd ychwanegol, gwella tanlwybrau, gosod peiriannau tocynnau newydd ac adnewyddu’r tŵr cloc.

Y llynedd hefyd, cafodd dwy ardal gyfarfod bwrpasol i gynorthwyo teithwyr eu creu yn yr orsaf a chafodd yr arwyddion eu hailwampio’n helaeth.

Meddai Helen Simmonds, Rheolwr Prosiect yn Trafnidiaeth Cymru:

“Rydym yn falch iawn o weld y gwaith hwn yn dechrau, a fydd yn gwella amgylchedd yr orsaf yn sylweddol i’n cwsmeriaid. Mae cynllunio’r prosiect hwn wedi golygu llawer o waith caled. Bydd y gwaith yn digwydd dros gyfnod o nifer o wythnosau er mwyn sicrhau ei fod yn tarfu cyn lleied ag sy’n bosibl ar gwsmeriaid.

“Gwelsom dros 14 miliwn o bobl yn dod drwy orsaf Caerdydd Canolog y llynedd, sy’n dangos yn union pa mor bwysig yw’r orsaf i’n rhwydwaith.”

Meddai Hinatea Fonteneau, Pennaeth Prosiectau Gorsafoedd:

“Rydym i gyd yn gwybod pa mor bwysig yw gorsaf Caerdydd Canolog fel y porth i’n prifddinas, a gyda rhywfaint o fuddsoddiad penodol rydym yn gwybod y gallwn gael yr orsaf i edrych ar ei gorau. Yn rhan o’n Gweledigaeth Gwella Gorsafoedd, byddwn yn trawsnewid golwg a naws pob un o’n gorsafoedd. Rydym wedi bod yn cydweithio’n agos â’n partneriaid yn Network Rail ar hynny, a gyda’n gilydd gallwn wneud Caerdydd Canolog yn orsaf a fydd yn destun balchder.”

 

Ffynhonnell y wybodaeth: Trafnidiaeth Cymru

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon