Newyddion

 Croeso i Fyfyrwyr Newydd! Teithio yn eich dinas newydd gyda MyndiBobManfelMyfyriwr

Croeso i Fyfyrwyr Newydd! Teithio yn eich dinas newydd gyda MyndiBobManfelMyfyriwr

20 Awst 2020

Wrth i’r flwyddyn academaidd newydd nesáu, a gan eich bod erbyn hyn wedi cael y graddau y buoch yn disgwyl yn eiddgar amdanynt, mae’n bosibl y byddwch yn dechrau paratoi ar gyfer mynd i’r brifysgol.

Gall dechrau ar gyfnod hollol newydd, gyda llwyth o bobl newydd mewn sefyllfa anghyfarwydd, fod yn brofiad brawychus iawn. Er na allwn wneud llawer i’ch helpu i dorri’r garw gyda’ch cyd-fyfyrwyr yn y brifysgol, gallwn yn bendant eich helpu i deithio o le i le yn eich tref neu’ch dinas newydd. 

Llwyfan a grëwyd yn benodol ar gyfer myfyrwyr sy’n astudio yng Nghymru yw myndibobmanfelmyfyriwr, a’i unig ddiben yw cyflwyno gwybodaeth am drafnidiaeth gyhoeddus fesul tudalen ar y we er mwyn ei gwneud mor hwylus ag sy’n bosibl i chi gael gafael arni.

Mae gan bob prifysgol ei thudalen bwrpasol ei hun sy’n cynnwys manylion am bob math o drafnidiaeth, felly ni ddylai fod rheswm i chi deimlo’n ofnus neu’n anwybodus ynghylch sut mae dal y bws neu’r trên yn eich ardal newydd.

Cymerwch olwg ar y wefan yn awr a byddwch yn barod i weld y cyfan sydd gan eich cartref newydd oddi cartref i’w gynnig i chi!

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon