Newyddion

Stagecoach-40th-birthday-celebrations-traveline-cymru

Stagecoach yn dathlu 40 mlynedd o wasanaethu ei gymunedau gyda balchder

08 Hydref 2020

  • Stagecoach yn dathlu pedwar degawd o gysylltu cymunedau â’i gilydd drwy ei wasanaethau bws a thram
  • Ymgyrch i chwilio am arwyr cymunedol tawel er mwyn helpu i ddathlu pen-blwydd y cwmni yn 40 oed
  • Trafnidiaeth gyhoeddus yn dal i chwarae rhan bwysig yn nyfodol mwy gwyrdd y DU

Ddydd Gwener 9 Hydref, bydd Stagecoach yn dathlu’n swyddogol bod 40 mlynedd wedi pasio ers iddo ddechrau gwasanaethu ei gymunedau gyda balchder a chysylltu pobl â’i gilydd ledled y DU.

Cafodd Stagecoach ei sefydlu yn 1980 gan Syr Brian Souter a’i chwaer, y Fonesig Ann Gloag, a thros y pedwar degawd diwethaf mae’r cwmni wedi torri tir newydd drwy gyflwyno gwasanaethau mwy gwyrdd a chlyfar yn y DU ac mewn gwledydd ledled y byd, gan gynnwys Seland Newydd, Gogledd America a Sweden. Heddiw, mae trafnidiaeth gyhoeddus yn dal i chwarae rhan hollbwysig wrth i’r DU fynd i’r afael â’r heriau sy’n gysylltiedig â Covid-19 ac wrth iddi ystyried dyfodol mwy gwyrdd ar ôl y pandemig.

Er mwyn dathlu pedwar degawd llwyddiannus, mae gweithredwr bysiau mwyaf y DU yn gofyn i arwyr yn y cymunedau y mae ei wasanaethau bws a thram yn eu gwasanaethu fod yn rhan o’r dathliadau pen-blwydd. Mae Stagecoach yn gofyn i’w gwsmeriaid a’i gymunedau enwebu eu harwyr tawel – gallant fod yn unrhyw un sydd wedi chwarae rhan bwysig i gynorthwyo’r gymuned yn ystod y pandemig Covid-19 erchyll, neu’n unrhyw un sy’n seren yn gyffredinol ac sy’n helpu i sicrhau bod y gymuned fel y mae.

Bydd yn chwilio am enwebiadau ar draws pob un o’r ardaloedd y mae’n gweithredu ynddynt – o Gymoedd y Rhondda yn ne Cymru i Aberdeen yng ngogledd yr Alban. Bydd y buddugwr ym mhob ardal yn cael talebau i’w gwario yn siopau’r stryd fawr, a bydd yn mynd ymlaen i’r rownd derfynol pan fydd Arwr Cymunedol Cenedlaethol Stagecoach yn cael ei ddewis.

 

Meddai Nigel Winter, Rheolwr Gyfarwyddwr Stagecoach yn Ne Cymru: “Yn ystod y pedwar degawd diwethaf, rydym wedi helpu biliynau o deithwyr i deithio i’r gwaith, yr ysgol, y coleg a’r brifysgol, mynd i siopa, mwynhau eu hamser hamdden a chadw mewn cysylltiad â’u teuluoedd a’u ffrindiau.

“Mae pen-blwyddi yn adeg wych i fyfyrio ac i edrych yn ôl ar yr hyn yr ydym wedi’i gyflawni. Ond maent hefyd yn gyfle i gofio am bawb sy’n bwysig i ni. Rydym yn falch o’r rhan wych y mae ein tîm yn dal i’w chwarae i sicrhau bod ein cymunedau’n cadw mewn cysylltiad â’r bobl a’r lleoedd sydd fwyaf annwyl iddynt. Ac rydym yn gwybod am y gwaith gwych sy’n digwydd yn y cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu, ac wedi gweld rhai enghreifftiau rhagorol lle mae pobl wedi dod ynghyd i gynorthwyo ei gilydd yn ystod misoedd anodd y pandemig yn ddiweddar.

“Wrth ddathlu ein pen-blwydd yn 40 oed, rydym am roi teyrnged i’n harwyr cymunedol lleol a’n holl weithwyr oherwydd y rôl werthfawr y maent wedi’i chwarae i sicrhau llwyddiant cwmni Stagecoach heddiw.

“Ond mae’n bwysig hefyd ein bod yn dal i edrych tua’r dyfodol. Rydym yn falch o fod yn rhan mor ddibynadwy o fywyd pob dydd ym Mhrydain, a bydd ein gwasanaethau’n dal yn greiddiol i ddyfodol ein heconomi wrth iddynt warchod ein hamgylchedd a chadw cymunedau mewn cysylltiad â’i gilydd.”

 

Gellir enwebu Arwyr Cymunedol drwy lenwi’r ffurflen hon, a phan fydd yr holl enwebiadau wedi dod i law byddwch yn gallu pleidleisio dros Arwr Cymunedol eich ardal chi. Bydd y buddugwr yn cael talebau Love2Shop gwerth £75 a bydd yn gallu ymfalchïo yn y ffaith bod ei gymuned yn ei werthfawrogi. Bydd y buddugwr hefyd yn cael cyfle i fod yn Arwr Cymunedol Cenedlaethol Stagecoach, a bydd enillydd y teitl hwnnw’n cael talebau Love2Shop gwerth £500.

Mae fideo pen-blwydd arbennig – lle mae Syr Brian a Phrif Weithredwr Stagecoach, Martin Griffiths, yn myfyrio ynghylch dechrau’r daith, y gwerthoedd sy’n sbarduno Stagecoach, y rôl hollbwysig y mae tîm y cwmni’n ei chwarae, a’r ffocws ar gwsmeriaid a chymunedau lleol – ar gael i’w wylio yma.

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon