Newyddion

Welsh-Government-Announce-New-Transport-Strategy-Reducing-Carbon-Emissions-Traveline-Cymru

Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi Strategaeth Drafnidiaeth newydd sy’n addo lleihau allyriadau carbon o’r rhwydwaith trafnidiaeth

17 Tachwedd 2020

Bydd y strategaeth ddrafft, ‘Llwybr Newydd’, yn dylanwadu ar system drafnidiaeth Cymru yn ystod y ddau ddegawd nesaf.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei strategaeth drafnidiaeth ddrafft newydd sy’n addo lleihau’n sylweddol allyriadau carbon o’r rhwydwaith trafnidiaeth yng Nghymru. Ar hyn o bryd, mae trafnidiaeth yn gyfrifol am 17% o allyriadau carbon Cymru ond mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i bennu blaenoriaethau newydd a heriol ar gyfer cyfnod o bum mlynedd er mwyn mynd i’r afael ag allyriadau carbon, wrth i’r Llywodraeth geisio cyrraedd targedau datgarboneiddio.

Bydd y strategaeth ddrafft, ‘Llwybr Newydd’, yn dylanwadu ar system drafnidiaeth Cymru yn ystod y ddau ddegawd nesaf. Mae’n nodi ystod o uchelgeisiau newydd ar gyfer ad-drefnu trafnidiaeth yng Nghymru, gan gynnwys hierarchaeth newydd ar gyfer trafnidiaeth gynaliadwy, a fydd yn helpu i lywio buddsoddiadau i gyfeiriad trafnidiaeth sy’n fwy caredig i’r amgylchedd.

Caiff y strategaeth ei chyhoeddi ar adeg pan fo’r pandemig coronafeirws yn parhau i effeithio ar fywydau pob dydd, felly mae’r strategaeth yn cydnabod bod y patrymau sy’n golygu llai o deithio’n ôl ac ymlaen i’r gwaith a mwy o weithio gartref yn debygol o barhau. Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi amlinellu ei huchelgais hirdymor ynghylch cael 30% o’r gweithlu i weithio gartref neu o bell, a fydd yn cael ei wireddu drwy roi mwy o ddewis i bobl ynghylch sut a ble maent yn gweithio. Mae’r strategaeth yn cydnabod bod gwasanaethau mwy lleol a dulliau mwy llesol o deithio’n gallu golygu bod angen i lai o bobl ddefnyddio eu ceir bob dydd.

Mae ‘Llwybr Newydd’ yn gosod pedwar uchelgais hirdymor ar gyfer y system drafnidiaeth yng Nghymru, a gaiff eu gwireddu drwy gyfres o flaenoriaethau pum mlynedd. Mae hefyd yn cynnwys naw o ‘fini-gynlluniau’ ar gyfer dulliau teithio a sectorau: teithio llesol; trenau; bysiau; ffyrdd (gan gynnwys strydoedd a pharcio); y trydydd sector; tacsis a cherbydau hurio preifat; cludo llwythi a logisteg; a phorthladdoedd, trafnidiaeth ar y môr a hedfanaeth.

Mae ymgynghoriad wedi’i lansio er mwyn i bobl gael dweud eu dweud am y cynlluniau, a bydd yr ymgynghoriad hwnnw’n para tan 25 Ionawr 2021.

 
Meddai Ken Skates, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru:

Ein system trafnidiaeth gyhoeddus yw un o’n hasedau cenedlaethol pwysicaf. Mae’n cysylltu pobl â’i gilydd, yn dod â chymunedau at ei gilydd ac yn galluogi busnesau i dyfu ac ehangu. Mae’n un o’r adnoddau mwyaf pwerus sydd gennym ar gyfer sicrhau cyfiawnder cymdeithasol a thwf cynhwysol.

Ond mae 2020 yn gyfnod pwysig o safbwynt datblygiad y system. Mae’n argyfwng ar ein hinsawdd, mae technoleg newydd yn newid y modd yr ydym yn ystyried teithio, ac mae’r coronafeirws yn rhoi straen ddifrifol ar sylfeini ariannol ac economaidd modelau trafnidiaeth gyhoeddus.

Mae ein strategaeth newydd – Llwybr Newydd – yn nodi ymrwymiad i leihau allyriadau carbon yn sylweddol fel bod pob un ohonom yn chwarae ein rhan yn yr argyfwng yr ydym yn ei wynebu. Mae’n dangos sut y bydd hybu cyfiawnder cymdeithasol a mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd wrth wraidd yr hyn a wnawn, yn enwedig yng nghyd-destun pandemig sy’n newid yn sylfaenol y ffordd yr ydym yn byw, yn gweithio ac yn hamddena.

Mae’r newid tuag at system drafnidiaeth sy’n fwy caredig i’r amgylchedd eisoes ar y gweill, ac mae mwy o arian nag erioed o’r blaen yn cael ei fuddsoddi mewn dulliau teithio llesol a thrafnidiaeth gyhoeddus. Mae Llwybr Newydd yn gyfle unwaith mewn cenhedlaeth i atgyfnerthu a chyflymu’r gwaith hwnnw er mwyn i ni allu sicrhau bod ein system drafnidiaeth yng Nghymru yn wirioneddol addas i’r dyfodol am genedlaethau i ddod.

 

Meddai Lee Waters, Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth:

Rydym wedi cyrraedd pwynt lle mae’r rhan fwyaf o bobl o’r farn mai mynd mewn car yw’r ffordd hawsaf o deithio o le i le. Rhaid i hynny newid os ydym am lwyddo i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd, ond bydd angen ymdrech fawr i annog pobl i ystyried opsiynau amgen. Yr unig ffordd o lwyddo i berswadio pobl i newid eu harferion yw drwy wneud yr opsiynau amgen hynny’n fwy deniadol. A dyna’r dasg y mae ein strategaeth drafnidiaeth newydd yn ei gosod i’w hun.

 

Meddai Rheolwr Gyfarwyddwr Traveline Cymru, Jo Foxall, am y strategaeth drafnidiaeth newydd:

Rydym yn croesawu ac yn cefnogi’r blaenoriaethau uchelgeisiol a nodir yn Strategaeth Drafnidiaeth Cymru (Llwybr Newydd) ar gyfer gwella trafnidiaeth gyhoeddus ac opsiynau teithio llesol, lleihau teithiau mewn ceir ac allyriadau, a gwella ansawdd yr aer. Rydym yn falch o weld bod y cynllun yn canolbwyntio ar bobl, ei fod yn bellgyrhaeddol ac yn gynhwysol ac y bwriedir ymgynghori â rhanddeiliaid a chymunedau wrth ei fireinio. Byddem yn annog mwy fyth o ffocws ar wybodaeth, oherwydd rydym yn teimlo bod gwybodaeth yn elfen allweddol wrth i bobl ddewis eu dulliau teithio. Byddem hefyd yn annog mesurau cadarn i sicrhau bod y strategaeth yn cyflawni’r hyn a nodir ynddi.

 

Ffynhonnell y wybodaeth: llyw.cymru

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon