Newyddion

Newport-Bus-To-Operate-New-Chepstow-To-Bristol-TrawsCymru-T7-Service-Traveline-Cymru

Newport Bus yn rhedeg y gwasanaeth o Gas-gwent i Fryste drwy Cribbs Causeway

06 Ionawr 2021

Newport Bus sydd bellach yn gyfrifol am redeg llwybr bysiau i gymudwyr, sy’n cysylltu Gwent â Bryste.

Dechreuodd gwasanaeth T7 o Gas-gwent i Fryste, sydd wedi’i ailfrandio, weithredu ddydd Llun ar ôl i’r cwmni trafnidiaeth sydd â’i bencadlys yng Nghasnewydd ennill y contract pum mlynedd. Mae’r gwasanaeth yn rhan o rwydwaith TrawsCymru o lwybrau bysiau cyflym, a noddir gan Lywodraeth Cymru. Bydd y gwasanaeth ar gael am ddim i deithwyr tan 10 Ionawr.

Erbyn hyn mae gwasanaeth T7, a elwir yn wasanaeth Traws Hafren ers mis Mehefin 2020, wedi’i ehangu i gynnwys bysiau ar benwythnosau. Yn ôl Newport Bus, penderfynwyd cynnig gwasanaeth saith diwrnod yr wythnos “er mwyn diwallu anghenion pobl sy’n gweithio ar benwythnosau, y sawl sydd am siopa a myfyrwyr”.

“Rydym wrth ein bodd o fod wedi cael ein dewis i redeg y gwasanaeth T7 newydd,” meddai Scott Pearson, rheolwr gyfarwyddwr Newport Transport, y gweithredwr bysiau yng Nghasnewydd. “Dyma’r gwasanaeth TrawsCymru cyntaf i ni fel cwmni ei redeg, felly rydym yn edrych ymlaen at ei ddatblygu er mwyn darparu’r gwasanaeth gorau posibl i’n cwsmeriaid.

“Mae’n garreg filltir bwysig i Newport Bus, ac rydym yn gobeithio gallu dangos ein gwerth o safbwynt helpu i wella rhwydwaith TrawsCymru.”

Cafodd gwasanaeth Traws Hafren ei sefydlu yn ystod haf y llynedd a’i redeg gan NAT Group fel cynllun peilot chwe mis er mwyn disodli llwybr blaenorol gwasanaeth y Severn Express a fu’n teithio rhwng Casnewydd a Bryste drwy Gas-gwent.

Bydd y gwasanaeth T7 newydd yn mynd o Gas-gwent i ganol dinas Bryste drwy ganolfan siopa Cribbs Causeway yn rheolaidd, saith diwrnod yr wythnos. Bydd gwasanaethau ychwanegol yn gynnar yn y bore a gyda’r hwyr yn cysylltu Magwyr a Chil-y-coed â’r gwasanaeth. Mae’r amserlen o ddydd Llun i ddydd Gwener ar gyfer y gwasanaeth T7 newydd yr un fath â’r amserlen ar gyfer llwybr gwasanaeth Traws Hafren.

Meddai’r Cynghorydd Jane Pratt, yr aelod cabinet sy’n gyfrifol am drafnidiaeth gyhoeddus yng Nghyngor Sir Fynwy: “Mae hwn yn wasanaeth rhanbarthol o bwys, sy’n cynnig cymorth hollbwysig i’r sawl y mae angen iddynt deithio er mwyn gweithio, cael addysg neu ddarparu gwasanaethau. Bydd hefyd yn hybu twristiaeth ac yn cysylltu ffrindiau a pherthnasau â’i gilydd.

“Rydym yn ddiolchgar tu hwnt i Lywodraeth Cymru am fuddsoddi yn y gwasanaeth strategol hanfodol hwn.”

 

Ffynhonnell y wybodaeth: South Wales Argus

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon