Newyddion

Sustrans-Cymru-Launch-New-Manifesto-For-2021-Senedd-Elections

Sustrans Cymru yn cyhoeddi maniffesto newydd ar gyfer Etholiadau’r Senedd yn 2021: Cymru Yfory, i Bawb

01 Chwefror 2021

Mae’r maniffesto yn nodi 12 gofyniad sy’n galw ar Lywodraeth nesaf Cymru i sicrhau bod Cymru yn wlad o gymunedau cynhwysol sydd wedi’u cysylltu â’i gilydd.

Ni fu gweledigaeth Sustrans Cymru ar gyfer Cymru Yfory erioed mor berthnasol. Dychmygwch gymdeithas lle gall pawb gerdded neu feicio yn eu cymdogaethau. Mae ysgolion, siopau a gweithleoedd o fewn cyrraedd yn hawdd ac mae ein trefi yn hygyrch, yn wyrdd ac yn fywiog.

Fel y dywed Cyfarwyddwr Sustrans Cymru, Christine Boston: “Rydym am weld byd lle mae pobl wedi’u cysylltu trwy drafnidiaeth gynaliadwy a theithio llesol, a lle na fydd bod heb gar yn effeithio ar eich gallu i gael eich cynnwys mewn cymdeithas.”

Isod mae 12 gofyniad Sustrans Cymru ar gyfer Llywodraeth nesaf Cymru, a fyddai’n gwneud gwahaniaeth enfawr i genedlaethau’r dyfodol yng Nghymru pe baent yn cael eu gweithredu.

 

Buddsoddi mewn dulliau teithio diogel ac iach:

Gofyniad 1: Sicrhau bod o leiaf 10% o gyfanswm y gyllideb ar gyfer trafnidiaeth yn cael ei neilltuo i ddulliau teithio llesol, gan gynnwys darpariaeth sy’n golygu bod modd i awdurdodau lleol weithredu’r Ddeddf Teithio Llesol, a ffrwd o gyllid refeniw ar gyfer newid ymddygiad.

Gofyniad 2: Creu cronfa gyfalaf ar wahân o £20 miliwn y flwyddyn ar gyfer datblygu a gwella’r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol, er mwyn sicrhau ei fod yn gwbl hygyrch i bawb.

 

Ysbrydoli cenedlaethau’r dyfodol i gerdded a beicio:

Gofyniad 3: Sicrhau bod pob plentyn yng Nghymru yn gallu cael gafael ar feic a chael hyfforddiant beicio rhad ac am ddim.

Gofyniad 4: Sefydlu rhaglen ar gyfer Strydoedd Ysgol, sydd wedi’i hymgorffori mewn cymdogaethau sy’n galluogi plant i deithio’n ôl ac ymlaen i’r ysgol yn annibynnol.

 

Creu Cymru o gymdogaethau 20 munud

Gofyniad 5: Helpu awdurdodau lleol i greu trefi a dinasoedd sy’n rhoi pobl yn gyntaf trwy wneud cymdogaethau 20 munud yn egwyddor ganolog mewn polisïau cynllunio lleol, polisïau trafnidiaeth, polisïau iechyd a pholisïau economaidd.

Gofyniad 6: Defnyddio’r hierarchaeth trafnidiaeth gynaliadwy yng nghyswllt pob penderfyniad am bolisi ac am fuddsoddi ym maes trafnidiaeth a chynllunio, er mwyn sicrhau bod Cymru yn blaenoriaethu pobl a’u gwasanaethau mynediad, gan leihau dibyniaeth ar geir ar yr un pryd.

 

Trafnidiaeth i bawb

Gofyniad 7: Blaenoriaethu opsiynau o ran trafnidiaeth gynaliadwy trwy integreiddio cerdded a beicio’n llawn yn y rhwydwaith ehangach o drafnidiaeth gyhoeddus, gan sicrhau ei fod yn gwasanaethu pob defnyddiwr yn deg.

Gofyniad 8: Sicrhau bod terfyn cyflymder 20 milltir yr awr yn cael ei roi ar waith fel y terfyn cyflymder diofyn ym mhob ardal adeiledig erbyn 2023, a bod parcio ar y palmant yn cael ei wahardd ledled Cymru.

Gofyniad 9: Deddfu ar gyfer Deddf Aer Glân yn nhymor cyntaf y llywodraeth.

 

Mynediad i fyd natur

Gofyniad 10: Rydym yn galw ar Lywodraeth nesaf Cymru i sefydlu Rhaglen Lonydd Gleision Genedlaethol er mwyn darparu mynediad gwell i fyd natur ar gyfer pawb ledled Cymru.
Sicrhaullwyddiant

Gofyniad 11: Gwella amrywiaeth y sawl a gynrychiolir ar y Bwrdd Teithio Llesol a chodi statws y bwrdd i statws Comisiwn sy’n gallu dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif.

Gofyniad 12: Gosod targedau heriol ar gyfer teithio llesol, a chynnal Arolwg Trafnidiaeth Cenedlaethol o safon uchel bob blwyddyn er mwyn gwerthuso llwyddiant.

 

Ffynhonnell y wybodaeth: Sustrans Cymru

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon