Network Rail a’r elusen Chasing the Stigma yn lansio’r ymgyrch ‘There is Always Hope’ er mwyn codi ymwybyddiaeth o iechyd meddwl
12 Mawrth 2021Mae’r ymgyrch wedi’i lansio wrth i ymchwil newydd ddangos cynnydd enfawr mewn problemau iechyd meddwl o ganlyniad i’r pandemig.
Yn ôl ymchwil a gyflawnwyd gan Network Rail a’r elusen iechyd meddwl Chasing the Stigma, sy’n gweithredu ar draws y DU, pobl ifanc sydd wedi gweld eu hiechyd meddwl yn dirywio fwyaf ers i’r pandemig ddechrau.
Dywedodd bron dri o bob pedwar person ifanc 18-24 oed (69%) fod Covid-19 wedi cael effaith andwyol ar eu hiechyd meddwl. Gwelwyd hefyd bod y pandemig wedi effeithio’n fawr ar fyfyrwyr, wrth i 64% ohonynt ddweud ei fod wedi effeithio ar eu hiechyd meddwl, ynghyd â 65% o’r sawl sy’n eu hystyried eu hunain yn bobl LHDT+.
Yn y cyfamser, roedd bron hanner y sawl a gymerodd ran o bob cwr o’r DU yn cytuno bod eu hiechyd meddwl wedi dioddef ers dechrau’r pandemig, a nododd yr ymatebwyr fod eu teimladau o orbryder (40%), unigrwydd (31%) ac iselder (31%) wedi gwaethygu.
Cafodd yr ymchwil, a fu’n astudio dros 2000 o oedolion ar draws y DU, ei chyflawni yn rhan o ymgyrch newydd o’r enw ‘There is Always Hope’, sy’n ceisio annog unrhyw un â phroblemau iechyd meddwl i ofyn am help cyn eu bod yn wynebu argyfwng.
Meddai Andrew Haines, prif weithredwr Network Rail: “Mae cyfrifoldeb enfawr arnom i gadw pobl yn ddiogel a hybu lles ein staff a’n teithwyr.
“Drwy’r ymgyrch hwn, rydym yn ceisio helpu pobl fregus sy’n wynebu risg cyn iddynt hyd yn oed ddod i gysylltiad â’r rhwydwaith rheilffyrdd, drwy eu cyfeirio at wasanaethau cymorth drwy’r Ganolfan Gobaith.”
Mae Jake Mills, sylfaenydd a phrif weithredwr Chasing the Stigma, yn ymddangos yn y ffilm ar gyfer ‘There is Always Hope’. Sefydlodd Jake yr elusen a datblygodd y Ganolfan Gobaith yn dilyn ei ymgais ef ei hun i gyflawni hunanladdiad. Wrth drafod ei brofiad personol ei hun, gwelodd nad oedd llawer o bobl yn gwybod ble i droi er mwyn cael help gyda’u problemau iechyd meddwl, ac roedd am gynnig cymorth i eraill oedd mewn sefyllfa debyg.
Meddai Jake: “Mae iechyd meddwl yn bwysicach yn awr nag erioed, yn enwedig gan fod y canlyniadau’n dangos bod y pandemig Covid-19 yn cael effaith go iawn ar bobl, yn enwedig oedolion ifanc, ar draws y DU.
“Mae chwalu’r stigma sy’n gysylltiedig ag iechyd meddwl, a sicrhau bod pobl yn gallu cael mynediad i’r cymorth cywir ar yr adeg gywir, yn hanfodol oherwydd gall wneud cymaint o wahaniaeth. Dyna’r rheswm pam y gwnaethom sefydlu’r Ganolfan Gobaith.
“Mae hwn yn gyfnod anodd ond mae help a chefnogaeth ar gael, mae rhywun sy’n barod i wrando ar gael bob amser, ac felly mae yna obaith bob amser.”
Canfu’r ymchwil hefyd:
- fod un o bob 10 wedi cael cymorth gyda’u hiechyd meddwl yn ystod y pandemig (9%)
- bod bron hanner yr ymatebwyr wedi profi arwahanrwydd cymdeithasol (43%)
- bodtrichwarter y sawloedd yn ei chael yn anoddcyn y pandemig yn dweudbod eu hiechydmeddwlwedigwaethygu
- bod dros un o bob tri (36%) o’r sawl nad oedd ganddynt broblemau iechyd meddwl cyn y pandemig wedi profi problemau o’r fath ers dechrau’r pandemig
- bodchwarter yr ymatebwyrwedidweud eu bodwedigalluneilltuomwy o amser ar gyferhobïau a diddordebau
- bod ychydig dan hanner yr ymatebwyr yn pryderu am yr economi (42%).
Mae’r ymgyrch diweddaraf yn rhan o ymdrechion y diwydiant rheilffyrdd i leihau nifer yr hunanladdiadau sy’n digwydd ar draws y rhwydwaith rheilffyrdd. Yn anffodus, mae hunanladdiad yn her y mae Network Rail, cwmnïau gweithredu trenau a’r Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig yn ei hwynebu’n barhaus. Mae’r sefydliadau hyn yn cydweithio â’i gilydd er mwyn cymryd camau parhaus i atal digwyddiadau o’r fath, sy’n cynnwys hyfforddi miloedd o staff y diwydiant a chynnal ymgyrchoedd megis Small Talk Saves Lives, sy’n galw ar bobl i ofalu am ei gilydd ac ymyrryd yn ddiogel os byddant yn gweld rhywun y gallai fod angen help arno.
Gall unrhyw un sydd â phroblemau iechyd meddwl lawrlwytho ap y Ganolfan Gobaith ar wefan Chasing the Stigma neu ar www.hubofhope.co.uk.
Mae gan yr ap fotwm Need Help Now? hefyd sy’n cysylltu yn syth â’r Samariaid a Crisis Text Line, sef llinell negeseuon testun.
Ffynhonnell y wybodaeth: Network Rail