Adventure Travel yn cyflwyno technoleg newydd ym maes telemateg ar ei gerbydau er mwyn gwella diogelwch a lleihau allyriadau
17 Mawrth 2021Mae’r darparwr trafnidiaeth Adventure Travel wedi cyhoeddi partneriaeth newydd â GreenRoad, sef darparwr atebion ym maes telemateg i wella diogelwch, lleihau allyriadau a sicrhau’r effeithlonrwydd gorau posibl wrth weithredu, ar draws ei fflyd sy’n cynnwys 150 o gerbydau.
Mae Adventure Travel, sef NAT Group gynt, wedi ymuno â GreenRoad i drefnu bod y fersiwn diweddaraf o’i atebion i wella perfformiad a diogelwch fflyd yn cael ei osod ar gerbydau’r cwmni er mwyn hyfforddi gyrwyr a’u hysbysu mewn amser real ynglŷn ag effeithlonrwydd eu dulliau gyrru, drwy gasglu a dadansoddi data manwl am eu perfformiad. O ganlyniad, mae’r gweithredwr bysiau yn ne Cymru yn disgwyl i’w yrwyr fabwysiadu dulliau gyrru mwy diogel ac esmwyth sy’n defnyddio tanwydd yn fwy effeithlon, a fydd yn lleihau allyriadau a’r perygl o wrthdrawiadau ac yn golygu hefyd bod teithwyr yn cael taith fwy cysurus a bod y cwmni’n gallu arbed llawer o danwydd.
Ers i GreenRoad gael ei sefydlu yn 2004, mae wedi bod yn darparu atebion sy’n cysylltu cerbydau fflyd fasnachol â systemau allanol gan ddefnyddio hyfforddiant amser real a gwybodaeth mewn cwmwl. Diolch i arbenigwyr y cwmni ar berfformiad fflyd, a’i dechnolegwyr, ei wyddonwyr data a’i arbenigwyr ar wasanaethau i gwsmeriaid, mae technoleg y cwmni wedi gwella dulliau gyrru cannoedd o filoedd o yrwyr ledled y byd.
Meddai Adam Keen, Rheolwr Gyfarwyddwr Adventure Travel:
“Mae GreenRoad yn darparu atebion blaenllaw ledled y byd ym maes rheoli perfformiad fflyd, ac rydym yn falch o allu defnyddio technoleg y cwmni yma yn ne Cymru. Mae ein perthynas newydd â GreenRoad nid yn unig yn ein galluogi i fod yn weithredwr mwy caredig i’r amgylchedd, drwy leihau’r tanwydd yr ydym yn ei ddefnyddio ac yn ei wastraffu, ond hefyd yn dangos ein bod yn parhau i fuddsoddi mewn technoleg yn ystod cyfnod sy’n sicr yn anodd iawn. Rwyf wedi gweithio gyda GreenRoad o’r blaen mewn cwmnïau bysiau mewn ardaloedd eraill yn y DU, ac rwy’n gwybod y bydd y cwmni yn cyflawni’r hyn y mae arnom angen iddo ei gyflawni, os caiff y dechnoleg ei gweithredu a’i rheoli yn gywir.”
Meddai Richard York, Rheolwr Cyfrifon Byd-eang GreenRoad:
“Rydym yn falch bod Adventure Travel wedi dewis GreenRoad i ddarparu’r atebion ym maes telemateg ar gyfer ei fenter ragorol i wella perfformiad amgylcheddol ac effeithlonrwydd. Rydym yn addo bod yn gefn i’r cwmni er mwyn ei helpu i gyrraedd ei nodau clodwiw, sef darparu’r gwasanaethau mwyaf diogel a chysurus posibl i’w gleientiaid gan leihau allyriadau ac arbed tanwydd ar yr un pryd.”
Ffynhonnell y wybodaeth: Adventure Travel