Newyddion

Welsh-Government-Release-New-Sustainable-Transport-Strategy

'System drafnidiaeth sy’n addas ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol' – Llywodraeth Cymru yn pennu targedau uchelgeisiol yn ei gweledigaeth newydd ar gyfer trafnidiaeth

19 Mawrth 2021

Mae adduned uchelgeisiol i gynyddu nifer y bobl sy'n defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, cerdded a beicio wrth wraidd Strategaeth Drafnidiaeth newydd Llywodraeth Cymru, a gyhoeddwyd ddydd Gwener.

Nod y strategaeth newydd – sy’n dilyn ymgynghoriad mawr dros y flwyddyn diwethaf – yw annog pobl i gefnu ar eu ceir, gyda tharged newydd i 45% o deithiau gael eu gwneud drwy ddulliau cynaliadwy ledled Cymru erbyn 2045, i fyny o 32% ar hyn o bryd.

Mae Llwybr Newydd yn ymrwymo i leihau allyriadau trafnidiaeth fel rhan o’r ymdrech i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd. Ar hyn o bryd mae trafnidiaeth yn gyfrifol am 17% o allyriadau carbon Cymru.

Mae’r strategaeth yn dod wrth i fwy na £210m gael ei fuddsoddi ledled Cymru yn 2021/22.

Mae mwy na £115m yn cael ei ddyrannu i awdurdodau lleol i’w wario ar brosiectau trafnidiaeth a fydd yn cefnogi’r ymrwymiadau yn Llwybr Newydd.

Yn ogystal, mae £70m ar gael i Gyngor Sir Blaenau Gwent i sicrhau'r gwasanaeth ychwanegol rhwng Casnewydd a Glynebwy, a chyfrannu at uchelgais tymor hwy o bedwar trên yr awr. Bydd yr arian yn galluogi gwelliannau i’r seilwaith, a fydd yn cael eu gwneud ochr yn ochr â Network Rail a Thrafnidiaeth Cymru.

Bydd buddsoddiad arall o £25 miliwn yn cefnogi prosiect Porth Wrecsam, gan greu system drafnidiaeth lle mae cysylltiadau gwell rhwng bysiau a threnau, a datblygu’r  ardal o amgylch Wrecsam Cyffredinol.

Yn ystod 2021/22, bydd £75m yn cael ei wario ar deithio llesol, cynnydd o £5m ar ddechrau’r tymor hwn o Lywodraeth Cymru.

 

Dywedodd Ken Skates, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru:

"Mae cyhoeddi Llwybr Newydd yn drobwynt. Bydd y strategaeth yn helpu i ail-lunio trafnidiaeth yng Nghymru yn sylfaenol. Bydd yn annog seilwaith newydd a gwyrddach ac yn newid y ffordd rydyn ni’n gwneud penderfyniadau ynghylch buddsoddi mewn trafnidiaeth ledled y wlad.

Mae'r argyfwng hinsawdd yn real iawn ac mae'n golygu bod yn rhaid inni gymryd camau brys i leihau ôl troed carbon y system drafnidiaeth yng Nghymru. Dyna pam rydyn ni wedi pennu targedau newydd uchelgeisiol ar gyfer dulliau trafnidiaeth mwy cynaliadwy fel cerdded, beicio a thrafnidiaeth gyhoeddus. Bydd hyn yn helpu i leihau dibynnu ar y car drwy wneud dewisiadau amgen cynaliadwy yn fwy deniadol.

Mae gwneud hyn yn golygu buddsoddi mewn opsiynau trafnidiaeth gyhoeddus amgen o ansawdd uchel, a dyna pam rydyn ni’n darparu mwy na £210m mewn cynlluniau trafnidiaeth a fydd yn cyfrannu at yr uchelgeisiau yn ein cynllun newydd.

Rydyn ni wedi dechrau'n dda, gyda buddsoddiadau mawr mewn pethau fel y Metro, ond rydyn ni’n gwybod y bydd angen inni wneud mwy a gweithredu’n gyflymach, ac mae Llwybr Newydd yn ein rhoi ni ar ein ffordd i greu system drafnidiaeth sy'n wirioneddol addas ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol."

 

Ychwanegodd Lee Waters, Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth:

"Dim ond os gallwn ni ddarparu dewisiadau amgen cyfleus yn lle’r car y bydd rhwydwaith trafnidiaeth gwyrddach yn llwyddo. Bydd buddsoddi mewn trenau, bysiau a llwybrau beicio nid yn unig yn helpu pobl i deithio o le i le, ond bydd yn ei gwneud yn haws dewis dulliau trafnidiaeth sy'n diogelu ein planed ac yn cyfrannu at gyfiawnder cymdeithasol.

Rydyn ni’n cyflawni'r strategaeth hon mewn pandemig ond nid yw hynny'n mynd i'n hatal rhag bod yn uchelgeisiol. Yn wir, dim ond gwneud y mater yn bwysicach y mae  – bydd trafnidiaeth gyhoeddus o ansawdd uchel yn hanfodol ar gyfer adferiad tecach, gwyrddach a mwy cyfartal yn dilyn COVID.

Mae'r cynnydd mewn gweithio o bell yn amlygu'r newidiadau mawr sydd ar y gweill yn ein heconomi.  Mae teithiau lleol yn arbennig o addas ar gyfer beicio a cherdded ac rydyn ni’n adeiladu rhwydwaith trafnidiaeth sy'n diwallu anghenion y dyfodol, nid anghenion y gorffennol."

Fel rhan o'r buddsoddiad o £115m sy'n cael ei gyhoeddi mewn cyllid awdurdodau lleol, mae bron i £47m yn cael ei wario ar gynlluniau teithio llesol, gan helpu i ddatblygu llwybrau sy'n cefnogi cerdded a beicio.

Mae £6.4m pellach yn cael ei ymrwymo drwy’r gronfa Llwybrau Diogel mewn Cymunedau, gan ganolbwyntio'n benodol ar lwybrau ysgolion.

Bydd £20m pellach yn cael ei gadarnhau drwy’r Gronfa Teithio Llesol yn nes ymlaen yn ystod y flwyddyn ariannol, gan sicrhau cyfanswm o £75m o wariant penodol ar deithio llesol – cynnydd o £5m ar ddechrau’r tymor hwn yn y Senedd.

Bydd y Gronfa Trafnidiaeth Leol yn ymrwymo £28.9 miliwn i brosiectau i ategu rhwydwaith trafnidiaeth Cymru. Aseswyd ceisiadau yn erbyn yr hierarchaeth trafnidiaeth gynaliadwy a amlinellir yn Llwybr Newydd, a rhoddwyd pwyslais ar wella dibynadwyedd trafnidiaeth gyhoeddus ac amseroedd teithio.

Dyrannwyd £9 miliwn arall i awdurdodau lleol i newid i gerbydau di-allyriadau ac i sefydlu seilwaith gwefru. Yr wythnos nesaf bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn cyhoeddi ei Strategaeth Gwefru Cerbydau Trydan i godi hyder gyrwyr sydd am ddefnyddio cerbydau trydan.

Mae'r Gronfa Ffyrdd Cydnerth, gwerth £17.4 miliwn, ar waith i fynd i'r afael ag aflonyddwch ar y rhwydwaith priffyrdd a achosir gan dywydd garw, yn enwedig i'r rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus.

Mae £3 miliwn arall yn cael ei ymrwymo i Fetro Gogledd Cymru, gan helpu i greu system drafnidiaeth hygyrch ac integredig i bobl yn y rhanbarth.

 

Ffynhonnell y wybodaeth: llyw.cymru

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon