Swydd Newydd: Uwch-swyddog Datblygu Busnes (Cymru) yn Sustrans
22 Mawrth 2021Mae Sustrans yn chwilio am Uwch-swyddog Datblygu Busnes sy’n frwdfrydig ynghylch cynaliadwyedd, er mwyn ein helpu i adnabod cyfleoedd o ran cyllid a datblygu cynigion a thendrau cystadleuol.
Sustrans yw’r elusen sy’n ei gwneud yn haws i bobl gerdded a beicio. Rydym yn cysylltu pobl a lleoedd â’i gilydd, yn creu cymdogaethau y mae modd byw ynddynt, yn trawsnewid y modd y mae plant a phobl ifanc yn teithio’n ôl ac ymlaen i’r ysgol, ac yn darparu dull o deithio’n ôl ac ymlaen i’r gwaith sy’n gwneud i bobl deimlo’n hapusach ac yn fwy iach. Beth am gymryd y cam nesaf yn eich gyrfa drwy ymgeisio i fod yn aelod o’n tîm yng Nghymru?
- Contract: Parhaol
- Hyblyg – yng Nghaerdydd/gartref
- 37.5 awr yr wythnos – byddem yn croesawuceisiadau i weithiooriauhyblyg
- £27,528 y flwyddyn
- Dyddiad cau: 9am ddydd Mercher 07 Ebrill 2021
- Cyfeirnod: SUS3111
Ynglŷn â’r swydd
Mae Sustrans yn chwilio am Uwch-swyddog Datblygu Busnes sy’n frwdfrydig ynghylch cynaliadwyedd, er mwyn ein helpu i adnabod cyfleoedd o ran cyllid a datblygu cynigion a thendrau cystadleuol.
Yn eich swydd, byddwch yn mabwysiadu dull creadigol ac arloesol o weithio, yn datblygu syniadau newydd, yn ysgrifennu ceisiadau diddorol am gyllid ac yn gweithio’n barhaus i wella ansawdd cynigion a’r graddau y maent yn gystadleuol.
Ynglŷn â chi
Mae Sustrans yn chwilio am gyfathrebwr ardderchog sydd â’r gallu i ymgysylltu ag ystod amrywiol o randdeiliaid ac sydd â’r profiad i ddatblygu cydberthnasau cryf.
Bydd gennych brofiad o baratoi cynigion llwyddiannus am gyllid a thendrau cystadleuol a phrofiad o weithio gydag eraill i adnabod cyfleoedd newydd a pharatoi gwybodaeth megis cynlluniau prosiect.
Yn gyfnewid am hynny, gall Sustrans gynnig hyblygrwydd gwirioneddol i chi o safbwynt patrymau gweithio.
Mae Sustrans yn croesawu arweinyddiaeth gynhwysol a gaiff ei sbarduno gan werthoedd, a thrwy ei ddiwylliant sy’n canolbwyntio ar bobl mae’n gwrando ac yn neilltuo amser i arloesi.
Dyma gyfle gwych i ymuno â thîm bach lle gallwch gael effaith fawr a lle’r ydym yn gwerthfawrogi cyfraniad ac arbenigedd pawb.
Cyfweliadau
Yr amser a’r dyddiad cau ar gyfer cael ceisiadau a gwblhawyd yw 9am ddydd Mercher 07 Ebrill 2021. Bydd y cyfweliadau’n cael eu cynnal drwy MS Teams ddydd Gwener 16 Ebrill 2021.
Os bydd Sustrans yn cael nifer enfawr o geisiadau am y swydd wag hon, efallai y bydd yn penderfynu cyflwyno dyddiad cau cynharach na’r un a gaiff ei hysbysebu, felly dylech sicrhau bod eich cais yn cael ei gyflwyno cyn gynted ag sy’n bosibl.
Cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant
Mae Sustrans wedi ymrwymo i leihau anghydraddoldeb, gwerthfawrogi amrywiaeth a galluogi cynhwysiant.
Mae Sustrans yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob rhan o’r gymuned, yn enwedig y rhai na chânt eu cynrychioli’n ddigonol.
Ar hyn o bryd mae’r rhannau hynny’n cynnwys pobl sy’n ystyried bod ganddynt anabledd, pobl dduon ac Asiaidd a phobl o leiafrifoedd ethnig.
I lawrlwytho’r disgrifiad swydd ar gyfer y swydd hon, cyflwyno eich ffurflen gais a darllen y Polisi ynghylch Cydraddoldeb ac Amrywiaeth, ewch i wefan Sustrans.
Ffynhonnell y wybodaeth: Sustrans