Adventure Travel yn cynorthwyo’r rhaglen frechu genedlaethol ar gyfer Covid-19 drwy gyflwyno gwasanaethau ychwanegol
31 Mawrth 2021Mae Adventure Travel, sef NAT Group gynt, wedi cyflwyno gwasanaethau ychwanegol er mwyn cynorthwyo Canolfan Brechu Torfol newydd y Bae ar hen safle Toys R Us ym Mae Caerdydd.
Agorodd Canolfan y Bae, sydd yn y Pentref Chwaraeon Rhyngwladol, yr wythnos diwethaf ac mae’n gwasanaethu trigolion Caerdydd a dwyrain Bro Morgannwg. Dyma bedwaredd ganolfan frechu Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro; mae’r tair sy’n bodoli eisoes i’w gweld yn y Sblot, Pentwyn a’r Barri.
Er mwyn galluogi’r trigolion i deithio mewn modd hwylus a chynaliadwy i’r ganolfan frechu, a helpu i leihau tagfeydd traffig yn yr ardal, mae Adventure Travel wedi cyflwyno pedwar bws ychwanegol ar ben y gwasanaethau y mae’n eu gweithredu’n barod, sef 89 a 304. Yn awr bydd gwasanaethau 303 a 304, sydd fel rheol yn gweithredu bob dwy awr, yn gweithredu bob awr a bydd gwasanaethau newydd 89a ac 89b bob dwy awr (bob awr o’u cyfuno) yn gweithredu ar ddydd Sul.
Agorodd y ganolfan frechu ei drysau ddydd Iau 25 Mawrth, ac mae ganddi’r capasiti i frechu tua 4,000 o bobl y dydd.
Meddai Adam Keen, Rheolwr Gyfarwyddwr Adventure Travel:
“Mae’r gwasanaethau newydd hyn wedi’u cyflwyno o ganlyniad i bartneriaeth agos â Chyngor Bro Morgannwg a chymorth ariannol drwy gronfa’r Cynllun Brys ar gyfer y Sector Bysiau. Rydym yn falch tu hwnt o fod yn rhan o’r ateb sy’n galluogi pobl y de i deithio mewn modd cynaliadwy a charedig i’r amgylchedd er mwyn cyrraedd eu hapwyntiadau i gael brechiad, heb lenwi’r ffyrdd yn ddiangen â cheir preifat.”
Meddai Andrew Eccleshare, Rheolwr Cludiant Teithwyr Cyngor Bro Morgannwg:
“Bydd ehangu’r gwasanaethau hyn yn ei gwneud yn haws i drigolion ymweld â Chanolfan Brechu Torfol y Bae, ac mae’n un enghraifft yn unig o’r modd y mae’r Cyngor yn cynorthwyo’r ymateb rhanbarthol i Covid-19. Mae hynny wedi bod yn bosibl o ganlyniad i bartneriaeth agos rhwng y Cyngor ac Adventure Travel, wrth i wahanol asiantaethau gydweithio â’i gilydd er budd y gymuned.”
Mae Adventure Travel yn un o brif ddarparwyr trafnidiaeth gyhoeddus y de ac mae wedi bod yn addasu ei wasanaethau ers dechrau’r pandemig. Mae’r cwmni yn glanhau pob un o’i gerbydau yn drwyadl, yn cyfyngu ar nifer y teithwyr, yn pennu’r seddau y gellir eu defnyddio ac yn galluogi pobl i dalu heb ddefnyddio arian parod.
Mae manylion am y Canolfannau Brechu Torfol, gan gynnwys gwybodaeth am drafnidiaeth, i’w cael ar wefan Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro https://bipcaf.gig.cymru/. I gael gwybodaeth am Adventure Travel, ewch i www.natgroup.co.uk.
Ffynhonnell y wybodaeth: Adventure Travel