
Rydym yn recriwtio! Swydd Rheolwr Ansawdd ar gael yn PTI Cymru (Traveline Cymru)
20 Mai 2021Ydych chi’n frwdfrydig ynghylch hwyluso a goruchwylio gwasanaeth o safon i gwsmeriaid ar draws ystod eang o sianelau?
Rydym yn chwilio am Reolwr Ansawdd i ymuno â thîm PTI Cymru (sefydliad ymbarél Traveline Cymru) i hwyluso a goruchwylio ansawdd y gwasanaeth yr ydym yn ei ddarparu. Rydym yn chwilio am rywun a all hybu diwylliant o wella’n barhaus er mwyn sicrhau bod pob cyswllt a wneir, waeth beth fo’r sianel, yn brofiad gwych i bob cwsmer. Bydd angen hefyd i chi sicrhau bod pob aelod o staff yn cael eu hyfforddi’n dda a bod strwythur gwych o ran cymorth ar gael ar gyfer eu timau.
A yw’n swnio fel y swydd iawn i chi? Os felly, gallwch weld y disgrifiad swydd a throsolwg o ofynion y swydd isod, ac mae rhagor o wybodaeth am PTI Cymru i’w chael yma.
Gallwch wneud cais am y swydd yma.
Trosolwg:
- Hyd y contract: 12 mis
- Math o swydd: Llawn-amser, dros dro
- Cyflog: £30,000.00-£32,000.00 y flwyddyn
- Iaith: Cymraeg a Saesneg (yn ofynnol)
- Lleoliad: Bydd y swydd yn golygu gweithio gartref, felly gallwch fod wedi eich lleoli yn unrhyw le yng Nghymru.
- Parodrwydd i deithio: 50% (yn ofynnol)
Diben y swydd:
- Hwyluso a goruchwylio ansawdd y gwasanaeth y mae’r cwmni yn ei ddarparu. Hybu diwylliant o wella’n barhaus er mwyn sicrhau bod pob cyswllt a wneir, waeth beth fo’r sianel, yn brofiad gwych i bob cwsmer, drwy sicrhau bod pob aelod o staff yn cael eu hyfforddi’n dda a bod strwythur gwych o ran cymorth ar gael ar gyfer eu timau:
- Gweithio gyda’r Pennaeth Gweithrediadau ac uwch-reolwyr ar draws y busnes i ddatblygu a chynnal fframwaith sicrhau ansawdd.
- Darparu gwasanaeth effeithlon a phroffesiynol bob amser gan gyflawni amcanion perfformiad fel y cytunwyd â deiliaid contract a’r Rheolwr Gyfarwyddwr.
- Sicrhau bod staff, safonau gwasanaeth a phrosesau mewnol yn cael eu datblygu’n barhaus.
- Monitro a dadansoddi lefelau bodlonrwydd ac adborth cwsmeriaid a rhanddeiliaid ar draws pob adran.
Dyletswyddau a phrif gyfrifoldebau:
- Sefydlu a chynnal rhaglen sefydlu ar gyfer asiantiaid newydd y ganolfan gyswllt, ynghyd â phroses ystyrlon ar gyfer cymeradwyo cymhwysedd a throsglwyddo.
- Datblygu strategaeth hyfforddi amrywiol ar gyfer y ganolfan gyswllt gan gynorthwyo’r rheolwyr a’r goruchwylwyr i gyflawni gwaith a sicrhau ffocws, drwy gyflwyno adborth yn rheolaidd ynghylch ansawdd galwadau a thrwy reoli gweithdai.
- Gweithio gyda’r Rheolwr Marchnata ac Arweinydd y Tîm Darparu Gwasanaethau i ystyried ansawdd ar draws yr adrannau ac ystyried ble y mae angen gwella ac ymgysylltu â chwsmeriaid a rhanddeiliaid.
- Deall anghenion cwsmeriaid yn fewnol ac yn allanol a deall y gofynion er mwyn datblygu prosesau effeithiol ar gyfer rheoli ansawdd.
- Rhoi adborth yn rheolaidd ynghylch contractau drwy adolygiadau cyfrif a rhaglenni cwsmer cudd, a chynorthwyo’r busnes i archwilio cyfleoedd i gael cwsmeriaid neu ffrydiau refeniw ychwanegol.
- Adnabod bylchau mewn sgiliau ar draws y ganolfan gyswllt.
- Defnyddio data allweddol a gwybodaeth am y farchnad i ddarparu argymhellion i’r uwch dîm rheoli.
- Ystyried ansawdd ar draws amryw sianelau ac adrannau, gan gynnwys sianelau llais, sgyrsiau byw, e-bost a chyfryngau cymdeithasol.
- Monitro ac asesu perfformiad asiantiaid ar sail cyfres o feini prawf.
- Rhoi adborth i asiantiaid, ar y cyd â Rheolwr y Ganolfan Gyswllt, ynghylch sut y gallant wella.
- Datblygu system fesur ar gyfer sgorau ansawdd er mwyn olrhain perfformiad unigolion a thimau.
- Paratoi adroddiadau i’r tîm rheoli ynghylch ble y mae’r ganolfan gyswllt wedi gwella a ble y gallai wella ymhellach.
- Cymryd cyfrifoldeb am gynnig hyfforddiant parhaus a chyfleoedd parhaus o ran datblygu i bob aelod o staff ar draws y ganolfan gyswllt.
- Rhoi adborth cwsmeriaid ac adborth ynghylch cydymffurfio mewnol i’r tîm rheoli.
- Mynychu cyfarfodydd tîm rheoli / bwrdd y cwmni fel y bo angen.
- Ymgymryd o bryd i’w gilydd â thasgau eraill yn ôl y gofyn.
- Glynu wrth bob un o bolisïau a gweithdrefnau’r cwmni a’u rhoi ar waith.
- Cynorthwyo i wireddu gwerthoedd PTI Cymru yn effeithiol ar draws y busnes.
- Y gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol.