Newyddion

Stagecoach-customers-thanked-for-supporting-major-donations-to-the-NHS-Charities-Together-Covid-19-Appeal

Cwsmeriaid Stagecoach yn cael diolch am helpu i godi arian sylweddol i Apêl Covid-19 ‘NHS Charities Together’

27 Mai 2021

  • Cwsmeriaid Stagecoach wedi codi dros £40,000 mor belled ar gyfer apêl y GIG

  • Cwsmeriaid yn cael diolch am eu cymorth i’r cynllun arian cymwys

  • Pobl yn cael eu hannog o hyd i ddefnyddio dulliau talu digyffwrdd pryd bynnag y bo modd a rhoi’r arian cymwys i dalu am eu siwrnai

Mae Stagecoach yn Ne Cymru wedi diolch i’w holl gwsmeriaid am helpu i godi dros £40,000 ar gyfer Apêl Covid-19 ‘NHS Charities Together’.

Cyflwynodd Stagecoach yn Ne Cymru bolisi arian cymwys dros dro ar ei wasanaethau bws ym mis Mai 2020 er mwyn ymateb i adborth yn ystod y pandemig Covid-19. Cafodd cwsmeriaid wybod y byddai unrhyw arian a fyddai dros ben, oherwydd nad oedd y cwmni’n rhoi newid, yn cael ei roi i Apêl ‘NHS Charities Together’ sy’n cynorthwyo staff y GIG, gwirfoddolwyr a chleifion ledled y DU y mae Covid-19 wedi effeithio arnynt.

Mae’r polisi dros dro yn un o nifer o fesurau a gymerodd Stagecoach er mwyn sicrhau bod pobl yn gallu parhau i deithio’n hyderus. Mae’r holl wasanaethau yng Nghymru wedi’u hachredu â nod swyddogol “We’re Good to Go” Visit Britain, sy’n cydnabod y gwaith a gyflawnwyd i fodloni canllawiau Covid-19 y llywodraeth a’r diwydiant a chydnabod y prosesau sydd ar waith i gadw cerbydau’n lân a chynorthwyo pobl i gadw pellter cymdeithasol.

Mae’r rhodd wedi’i rhannu rhwng partneriaid Apêl Covid-19 yng Nghymru, sef Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan a Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, sy’n helpu i gynorthwyo staff y GIG, gwirfoddolwyr a chleifion yn eu hysbytai mewn ffyrdd sydd y tu hwnt i’r hyn y gall cyllid arferol y GIG ei ddarparu.

Aeth Jamie Miles, Rheolwr Gweithrediadau Dros Dro Stagecoach yng Nghwmbrân, i gyfarfod â Kathryn Thomas, Rheolwr Prosiectau ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, yn ysbyty newydd y Faenor yng Nghwmbrân i gyflwyno’r rhodd ddiweddaraf.

 

Meddai Sue Turley, Swyddog Cronfeydd Elusennol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan:

“Bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio i ategu’r gofal a’r driniaeth a gaiff y cleifion, prynu offer meddygol a sicrhau budd i’r staff yn ystod y cyfnod digynsail hwn. Diolch i bawb a gyfrannodd; rydym yn gwerthfawrogi eich caredigrwydd.”

 

Meddai Steve Webster, Cyfarwyddwr Cyllid Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg:

“Hoffai Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg ddiolch i staff Stagecoach yn Ne Cymru a’r gymuned am y rhodd garedig iawn a gyflwynwyd i’r bwrdd iechyd yn ystod y pandemig Covid-19. Mae ein staff wedi gweithio’n eithriadol o galed yn ystod y flwyddyn ddiwethaf ac maent yn parhau i wneud hynny. Mae rhai ohonynt yn gweithio mewn meysydd sy’n anghyfarwydd iddynt er mwyn sicrhau ein bod yn darparu’r gofal gorau posibl i’n cleifion.

“Cafodd y rhoddion a gyflwynwyd eu rhoi mewn cronfa Covid-19 i’r staff. Mae’r gronfa honno’n cael ei defnyddio i ddarparu cyfleusterau neu eitemau a fydd o fantais ac o gymorth i les ein staff. Rydym wrthi ar hyn o bryd yn siarad â’r staff ynglŷn â beth yr hoffent ei wneud â’r arian er mwyn hybu eu hiechyd a’u lles yn y gwaith. Hoffem ddiolch i chi am eich cefnogaeth barhaus.”

 

Meddai Nigel Winter, Rheolwr Gyfarwyddwr Stagecoach yn Ne Cymru:

“Hoffem ddiolch i’n cwsmeriaid am eu help i godi swm mor ardderchog o arian ar gyfer yr apêl deilwng hon. Rydym yn falch iawn o’r gwaith anhygoel y mae pob gweithiwr allweddol, gan gynnwys ein gweithwyr ni, yn parhau i’w wneud ac rydym yn falch bod yr arian hwn yn mynd i gynorthwyo’r bobl hynny sydd wedi cynorthwyo cymaint o rai eraill yn ystod y cyfnod anodd hwn.”

 

Gofynnir o hyd i gwsmeriaid Stagecoach ddefnyddio dulliau talu digyffwrdd, talu â ffôn symudol neu dalu ymlaen llaw, neu fod â’r arian cymwys i brynu eu tocyn. Bydd yr arian sydd dros ben o ganlyniad i’r polisi arian cymwys yn parhau i gael ei roi i apêl y GIG.

 

Ffynhonnell y wybodaeth: Stagecoach yn Ne Cymru  

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon