Newyddion

New-funding-project-launched-for-patient-transport-schemes-in-Gwent-South-Wales

Prosiect cyllido newydd wedi’i lansio ar gyfer cynlluniau cludo cleifion yng Ngwent

20 Gorffennaf 2021

Mae prosiect newydd wedi’i sefydlu er mwyn hybu cludiant cymunedol i ysbytai a safleoedd eraill y GIG ar draws ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan.

O ddydd Llun 19 Gorffennaf 2021 ymlaen, gall darparwyr cludiant wneud cais am gyllid grant sydd ar gael drwy’r prosiect ‘Cludiant at Iechyd’ er mwyn hybu twf a datblygiad cludiant hygyrch a chynhwysol. Mae’r cyllid ar gael i fentrau cludiant cymunedol sy’n bodoli eisoes, er mwyn hybu’r gwaith o ddatblygu cynlluniau newydd i gludo cleifion ac er mwyn annog partneriaethau newydd yn y sector.

Bydd cludiant cymunedol yn fanteisiol i breswylwyr y mae arnynt angen cyrraedd safleoedd gofal iechyd er mwyn mynychu apwyntiadau neu ymweld â’u hanwyliaid.

Mae’r prosiect yn bartneriaeth rhwng Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Gwent, Y Gymdeithas Cludiant Cymunedol, Cynghrair Gwirfoddol Torfaen a Chymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Powys. Mae Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Gwent wedi penodi Cydlynydd Cludiant Cymunedol Rhanbarthol i reoli’r prosiect.

 

Meddai Faye Mear, y Cydlynydd Cludiant Cymunedol Rhanbarthol: 

“Drwy fy ngwaith blaenorol, rwyf wedi gweld â’m llygaid fy hun yr effaith gadarnhaol y mae cynlluniau cludiant cymunedol yn gallu ei chael o safbwynt galluogi trigolion i gyrraedd apwyntiadau pan fydd opsiynau teithio eraill yn gyfyngedig neu’n anymarferol. Mae’n gyffrous bod yn rhan o brosiect a fydd yn ehangu’r ddarpariaeth o ran cludiant cymunedol ar draws ardal gyfan y Bwrdd Iechyd.”

 

Meddai Gemma Lelliott, Cyfarwyddwr Cymru y Gymdeithas Cludiant Cymunedol: 

“Wrth i ni ddod i arfer â realiti newydd yn dilyn Covid-19, mae’n bwysicach yn awr nag erioed ein bod yn diogelu ac yn datblygu gwasanaethau cludiant sy’n diwallu o ddifri’ anghenion y cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu. Rydym yn gwybod bod cludiant cymunedol yn hanfodol i bobl sy’n byw yn ardal y Bwrdd Iechyd, ac rydym yn edrych ymlaen at fod yn rhan o’r bartneriaeth hon a fydd yn hybu ac yn ehangu agwedd mor bwysig ar gludiant. Rydym yn edrych ymlaen at gynorthwyo gweithredwyr cludiant cymunedol, sy’n newydd ac sy’n bodoli eisoes, i ddatblygu a gwella cysylltiadau ar gyfer cleifion, ymwelwyr a staff y mae angen iddynt gyrraedd lleoliadau iechyd ar draws y rhanbarth.”

I wneud cais am gyllid, cwblhewch y pecyn gwneud cais sydd ar wefan Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Gwent.

 

Ffynhonnell y wybodaeth: Y Gymdeithas Cludiant Cymunedol

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon