Newyddion

Free-Friday-to-Monday-bus-travel-over-summer-months-announced-by-Swansea-Council

Cyngor Abertawe yn cyhoeddi y bydd modd i bobl deithio am ddim ar fysiau o ddydd Gwener i ddydd Llun yn ystod misoedd yr haf

22 Gorffennaf 2021

Mae Cyngor Abertawe yn ariannu’r fenter er mwyn cynorthwyo teuluoedd a rhoi hwb i fusnesau manwerthu, hamdden a thwristiaeth wrth i Abertawe ddod allan o’r cyfnod clo.

Bydd y fenter yn dechrau ddydd Gwener 30 Gorffennaf ac yn gorffen ddydd Llun 30 Awst, a bydd teithwyr yn gallu teithio am ddim ar ddydd Gwener, dydd Sadwrn, dydd Sul a dydd Llun. Mae’n rhan o Gynllun Adferiad y Cyngor, sy’n werth £20 miliwn ac y bwriedir iddo gynorthwyo teuluoedd a rhoi hwb i’r economi leol yn dilyn y pandemig, a bydd hefyd yn helpu i leihau allyriadau a thagfeydd traffig. Mae’r cynnig i bobl deithio am ddim hefyd yn cynnwys gwasanaeth arbennig yn ôl ac ymlaen i Benrhyn Gŵyr ar ddydd Sul, a gyhoeddwyd gan y Cyngor yn ddiweddar.

Mae’r Cyngor yn gweithio gyda gweithredwyr bysiau’r ddinas i sicrhau bod teithwyr yn gallu teithio’n ddiogel a bod yr holl fesurau Covid angenrheidiol yn cael eu cyflwyno.

At hynny, gall teithwyr ddefnyddio’r gwasanaeth rhad ac am ddim yn hwyr y nos, er mwyn cefnogi economi’r nos yn y ddinas.

Mae manylion llawn am y fenter, gan gynnwys rhestr o’r gweithredwyr bysiau sy’n rhan ohoni, i’w gweld yn y ddogfen Cwestiynau Cyffredin a luniwyd gan Gyngor Abertawe.

 

Meddai Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe:

"Mae’r 16 mis diwethaf wedi bod yn wirioneddol anodd i bawb, ond yn awr wrth i’r cyfyngiadau Covid gael eu llacio rydym am wneud popeth o fewn ein gallu i gynorthwyo ein trigolion a’n busnesau i ymadfer a llwyddo ar ôl y pandemig.

"Mae gan Abertawe gymaint i’w gynnig, ond nid yw llawer o bobl wedi medru teithio o gwmpas Abertawe a mwynhau ein trefi, ein pentrefi a’n traethau godidog. Rydym am helpu pobl i deithio’n lleol, mwynhau’n lleol a siopa’n lleol.

"Bydd ein menter teithio am ddim ar fysiau yn rhoi cyfle i bawb deithio’n rhad ac am ddim yn ystod yr haf a manteisio ar yr hyn sydd ar gael iddynt.

"Rydym yn gwybod na fydd llawer o bobl yn mynd dramor yn ystod yr haf, felly mae’r fenter yn rhoi cyfle iddynt grwydro am ddim ac ymweld ag ardaloedd hudolus Abertawe a Phenrhyn Gŵyr.

"Bydd hefyd yn helpu i roi hwb i’n busnesau twristiaeth, manwerthu a hamdden drwy annog mwy o bobl i fynd i rannau o Abertawe na fyddent efallai yn ymweld â nhw fel rheol."

 

Meddai’r Cynghorydd Mark Thomas, Aelod Cabinet y Cyngor dros Wella’r Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd:

"Rydym wrth ein bodd o allu cynnig y fenter teithio am ddim ar fysiau ar benwythnosau hir yn ystod yr haf.

"Mae’r ffaith bod y cyfyngiadau Covid wedi’u llacio yn ddiweddar yn golygu mai dyma’r adeg gywir i ni lansio’r cynnig hwn, ond byddwn yn dal i weithio gyda gweithredwyr bysiau i sicrhau bod trefniadau teithio’n ddiogel o ran Covid.

"Drwy annog pobl i deithio ar fysiau, gallwn hefyd leihau allyriadau a thagfeydd traffig ar y ffyrdd, a fydd yn cyfrannu i ymrwymiad y Cyngor i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd.

"Mae’n fenter a fydd yn fuddiol i bawb, ac rydym yn gobeithio y bydd pobl yn manteisio ar y cynnig.

"Os bydd y fenter yn llwyddiannus, byddwn yn ystyried ei chyflwyno eto yn ystod gwyliau ysgol drwy gydol y flwyddyn er mwyn helpu i roi hwb i’n heconomi leol a chynorthwyo pobl i grwydro o gwmpas Abertawe."

 

Meddai Russell Greenslade, Prif Weithredwr Ardal Gwella Busnes Abertawe:

"Mae’n wych gweld Cyngor Abertawe yn darparu’r gwasanaeth hwn, a fydd yn ei gwneud yn haws i bawb fwynhau’r hyn sydd gan Abertawe i’w gynnig.

"Yma yn Ardal Gwella Busnes Abertawe, rydym yn gobeithio y bydd pobl yn manteisio ar y gwasanaeth rhad ac am ddim er mwyn cefnogi canol y ddinas a’i busnesau, y mae llawer ohonynt yn eiddo i fanwerthwyr annibynnol lleol ac yn fusnesau lletygarwch. Mae’r ffaith bod y gwasanaeth yn gweithredu tan yn hwyr yn newyddion cadarnhaol hefyd i economi’r nos yn Abertawe.

"Hoffem annog pobl i ddilyn ein tudalennau Calon Fawr Abertawe ar gyfryngau cymdeithasol a manteisio ar y fenter er mwyn gweld beth sydd ar gael iddynt ynghanol y ddinas."

 

Ffynhonnell y wybodaeth: Cyngor Abertawe

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon