Newyddion

Bws Caerdydd wedi’i ailfrandio cyn pen-blwydd y cwmni yn 120 oed

19 Awst 2021

Un elfen allweddol o’r gwaith ailfrandio yw’r cynllun lliw oren, sy’n rhoi teyrnged i ymgyrch poblogaidd iawn a gafodd ei arwain gan y gweithredwr yn yr 1970au a’r 1990au.

Mae Bws Caerdydd, sy’n gweithredu gwasanaethau bws yng Nghaerdydd a’r cyffiniau, wedi bod yn gweithio gyda Passenger, sef darparwr gwefannau ac apiau ar gyfer y sector trafnidiaeth gyhoeddus yn y DU, i lansio ymgyrch ailfrandio ar draws portffolio cyfan y cwmni.

Mae’r ymgyrch ailfrandio’n digwydd ychydig cyn i Bws Caerdydd ddathlu pen-blwydd y cwmni yn 120 oed y flwyddyn nesaf. Bwriad y dyluniadau newydd yw rhoi delwedd fodern wedi’i diweddaru i’r gweithredwr. Un elfen allweddol o’r gwaith ailfrandio yw’r cynllun lliw oren, sy’n rhoi teyrnged i ymgyrch poblogaidd iawn a gafodd ei arwain gan y gweithredwr yn yr 1970au a’r 1990au, pan oedd ei fysiau wedi’u haddurno â’r lliw llachar hwn yn ogystal â’r slogan ‘Pick an Orange’.

 

Meddai Gareth Stevens, Cyfarwyddwr Masnachol Bws Caerdydd:

“Roeddem am adfywio ein brand drwy roi delwedd newydd a ffres iddo, sy’n dangos ein ffocws blaengar yn dilyn y pandemig. Mae ein hymgyrch ailfrandio yn adlewyrchu ein hymdrechion dros gyfnod o 120 o flynyddoedd i wneud trafnidiaeth gyhoeddus yn fwy deniadol yng Nghymru. Mae hefyd yn atgyfnerthu ein cyfleusterau digidol arloesol ar gyfer prynu tocynnau a chynllunio teithiau, a gaiff eu gweithredu gan Passenger, drwy eu gwneud yn fwy deniadol i’r llygad.”

Mae Passenger wedi bod yn gweithio’n agos gyda Bws Caerdydd i gyflwyno brand newydd y cwmni ar draws ei wefan a’i ap, a gafodd eu lansio am y tro cyntaf yn 2013. Mae’r ap yn unig wedi bod yn llwyddiant ysgubol i Bws Caerdydd – mae wedi’i lawrlwytho dros 200,000 o weithiau hyd yma gan ddefnyddwyr.

 

Meddai Tom Quay, Prif Weithredwr Passenger wedyn:

“Mae’n ysbrydoledig cael gweithio gyda gweithredwyr sydd â’r un weledigaeth â ni, sef adfywio trafnidiaeth gyhoeddus, ac sy’n ymrwymo i addasu eu brand er mwyn cyflawni’r weledigaeth honno. Rydym wir wedi mwynhau gweithio gyda Bws Caerdydd i roi ap a gwefan y cwmni ar waith, gan helpu’r gweithredwr i wneud trafnidiaeth gyhoeddus yn fwy deniadol drwy gyfleusterau digidol sy’n arloesol ac yn gyfleus. Mae’r dyluniadau newydd ar draws y platfformau hyn yn adlewyrchu gwasanaethau hanesyddol Bws Caerdydd, sy’n uchel eu parch, ac yn atgoffa pobl am eu pwysigrwydd bob tro y byddant yn mynd i’r ap neu’r wefan.”

 

Ffynhonnell y wybodaeth: Wales247

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon