
Prinder gyrwyr bysiau yn First Cymru yn arwain at roi’r gorau dros dro i weithredu 15 o lwybrau
13 Medi 2021Mae’r cwmni bysiau wedi gorfod rhoi’r gorau dros dro i weithredu 15 o lwybrau ledled y de oherwydd prinder gyrwyr.
Dywedodd First Cymru ei fod wedi methu â gweithredu’r llwybrau yn ardal Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot ddydd Llun.
Dywedodd y cwmni ei fod wedi dyblu nifer y gyrwyr y byddai fel rheol yn eu cyflogi, ond bod y ffaith bod ceisiadau wedi ôl-gronni yn y DVLA ynghyd ag effeithiau’r pandemig yn golygu ei bod yn cymryd "misoedd" i drwyddedau gael eu prosesu.
Dywedodd y DVLA fod blaenoriaeth wedi cael ei rhoi i rai ceisiadau.
Dywedodd llefarydd ar ran First Cymru fod y prinder wedi digwydd oherwydd bod gyrwyr yn gorfod hunanynysu, bod staff yn absennol a bod mwy o yrwyr yn gadael i ymgymryd â swyddi eraill yn y diwydiant cerbydau nwyddau trwm.
"Rydym wedi bod wrthi’n recriwtio staff ac wedi dyblu ein gweithgarwch hyfforddi er mwyn cynyddu nifer ein staff newydd," meddai’r llefarydd.
"Mae llawer o yrwyr newydd ar fin cael eu cyflogi gennym ond mae’r gwaith o brosesu ceisiadau am drwyddedau yn y DVLA wedi bod yn araf iawn ac mae hynny wedi effeithio’n fawr arnom.
"Mae yna brinder gyrwyr cerbydau cludo teithwyr ym mhob rhan o’r diwydiant ac o’r DU, ac o ganlyniad ni allwn ofyn am gael benthyg gyrwyr ein cydweithwyr ledled y DU."
Mae’r cwmni wedi annog pobl i wirio cyn iddynt deithio.
Meddai llefarydd ar ran y DVLA:
"Rydym wrthi’n rhoi blaenoriaeth i geisiadau am drwyddedau dros dro i yrru cerbydau nwyddau trwm a cherbydau cludo teithwyr, ac mae’r trwyddedau hynny’n cael eu rhoi cyn pen tua phythefnos.
"Mae’n bosibl y bydd yn cymryd mwy o amser i brosesu ceisiadau mwy cymhleth, er enghraifft os oes angen archwiliadau meddygol yn rhan o gais am drwydded yrru.
"Mae’r gwaith o brosesu ceisiadau papur yn digwydd yn arafach oherwydd gweithredu diwydiannol diweddar ac oherwydd yr angen i gadw pellter cymdeithasol, sy’n golygu bod gennym lai o staff nag arfer ar y safle."
Ffynhonnell y wybodaeth: Newyddion y BBC