
Dweud eich dweud: Cyngor Torfaen yn gofyn am farn y cyhoedd am Fap Rhwydwaith Teithio Llesol newydd er mwyn helpu i wella llwybrau cerdded a beicio
21 Hydref 2021Cymerodd dros 1000 o bobl ran yn yr ymgynghoriad cychwynnol, sydd wedi helpu i lunio’r Map Rhwydwaith Teithio Llesol drafft.
Yn gynharach eleni, gofynnodd Cyngor Torfaen am farn y cyhoedd ynghylch sut y gellir gwella’r ddarpariaeth o ran teithio llesol yn Nhorfaen (sef beicio neu gerdded ar gyfer teithiau pob dydd, sy’n cynnwys teithio’n ôl ac ymlaen i’r ysgol, y gwaith, siopau a gwasanaethau iechyd a hamdden, yn hytrach na theithio at ddibenion hamddena). Roedd yr ymarfer ymgysylltu hwnnw’n llwyddiannus iawn a chymerodd dros 1000 o bobl ran ynddo.
Mae’r cyngor wedi ystyried yr holl sylwadau’n ofalus ac wedi cyfuno barn y cyhoedd â gwybodaeth berthnasol arall i lunio Map Rhwydwaith Teithio Llesol drafft. O ganlyniad, mae’r cyngor wrthi’n awr yn ymgynghori ynghylch 111 cilomedr ychwanegol o lwybrau sydd ar y Map Rhwydwaith Teithio Llesol drafft, o gymharu â’r map a gymeradwywyd gan Weinidogion Cymru yn 2017.
Mae’r mapiau yn dangos:
- pa lwybrau y mae angen eu gwella a ble y mae angen llwybrau newydd (maent wedi’u labelu yn “llwybrau’r dyfodol”)
- pa lwybrau sydd eisoes yn bodloni’r safon ddylunio briodol ar gyfer llwybr teithio llesol (maent wedi’u labelu yn “llwybrau presennol”)
- cyfleusterau cysylltiedig.
Yn ystod rhan nesaf yr ymgynghoriad, gall preswylwyr weld y Map Rhwydwaith Teithio Llesol arfaethedig ar gyfer pob anheddiad yn y sir a rhannu eu barn amdanynt. Gallwch ddangos a chuddio haenau er mwyn gweld y llwybrau presennol, gweld llwybrau’r dyfodol neu weld y cyfan ar yr un pryd. Mae haen ar wahân yn dangos ble y mae cyfleusterau sy’n gysylltiedig â theithio llesol.
Dylai eich adborth ystyried y cwestiynau canlynol:
- A yw Cyngor Torfaen wedi nodi’r llwybrau cywir i’w gwella (llwybrau’r dyfodol)?
- A yw wedi asesu’n gywir y llwybrau sydd eisoes yn bodloni’r safonau y cytunwyd arnynt (y llwybrau presennol)?
- A yw wedi nodi’r holl lwybrau newydd priodol?
Os hoffech gymryd rhan yn yr ymgynghoriad, ewch i wefan Cyngor Torfaen i weld y Map Rhwydwaith Teithio Llesol ar gyfer eich ardal a rhannu eich barn.
Ffynhonnell y wybodaeth: Cyngor Torfaen